MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Penmorfa, Aberaeron,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 34,314 - 36,124 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 34,314 - 36,124 *
Ynglŷn â'r rôlSylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.
Rydym yn edrych i recriwtio Cynghorydd Hyfforddiant - Sgiliau Digidol i ymuno â'n gwasanaeth Dysgu Gydol Oes.
Ynglwn â'r rôl
Darparu addysgu a hyfforddiant o ansawdd uchel i ddysgwyr sy'n oedolion ar bob lefel a gallu, gan gynnwys rheolwyr a gweithwyr Cyngor Sir Ceredigion, busnesau lleol, gweithwyr addysgu proffesiynol eraill, dysgwyr o sefydliadau eraill a'r gymuned leol.
Ynglwn yr ymgeisydd
Rydym yn chwilio am diwtoriaid cymwysedig a hyfedr i gyflwyno cyrsiau digidol sylfaenol ac uwch megis Microsoft Office, Google suite, ICDL a Power BI. Rydym yn hapus i gymryd ceisiadau ar gyfer addysgu o bell (efallai y bydd angen ambell i gyfarfod neu hyfforddiant wyneb yn wyneb).
Mae cymhwyster addysgu Lefel 4 neu uwch a chymhwyster arbenigedd pwnc gan Sefydliad Dyfarnu cydnabyddedig yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Bydd gennych o leiaf 4 blynedd o brofiad o ddarparu addysg oedolion, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o dechnolegau dysgu digidol.
Bydd gofyn i chi gynllunio, datblygu, cyflwyno, arfarnu ac asesu dysgu o ansawdd uchel, a defnyddio ystod o ddulliau addysgu ac asesu, gan ddilyn canllawiau sefydliadau dyfarnu. Gall y dosbarthiadau gael eu cyflwyno ar-lein, wyneb yn wyneb neu'n gyfunol, felly bydd angen i chi feddu ar y gallu i addysgu a dysgu drwy gyfrwng Microsoft Teams.
Rydym yn chwilio am unigolion â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg gan y rhoddir cefnogaeth lwyr yn ystod oriau gwaith i ymgeiswyr llwyddiannus heb y sgiliau gofynnol yn y Gymraeg i gyrraedd y safon a ddymunir ar ôl iddynt gael eu penodi.
Ein cynnig i chi
Rydym wedi ymrwymo ymrymwedig i fuddsoddi yn ein pobl a byddwn nid yn unig yn cynnig cefnogaeth i'ch galluogi i berchenogi meysydd cyfrifoldeb allweddol y swydd hon yn gyflym ac yn hyderus ond hefyd yn cefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu gwneud cynnydd yn eich gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, gweithio hybrid, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cefnogaeth gynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles a chynllun cyfraniadau pensiwn hael.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Flexi-time: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr ar ein gwefan gyrfaoedd.
Manylion Ychwanegol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n ceisio secondiad. Argymhellir gofyn am ganiatâd rheolwr llinell/cyflogwr cyn gwneud cais i sicrhau y gallwch ddychwelyd i'ch swydd barhaol unwaith y bydd y secondiad wedi dod i ben.
Fe wnawn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Alison Newby ar 07805 760467 neu ebost alison.newby@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnaublaenorolo reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy