MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Gradd Tâl Athrawon + 1 Pwynt AAA
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Dylunio a Thechnoleg neu Athro Gwyddoniaeth (Ysgol Neuadd Brynllywarch)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Gradd Tâl Athrawon + 1 Pwynt AAA

Athro Dylunio a Thechnoleg neu Athro Gwyddoniaeth (Ysgol Neuadd Brynllywarch)
Swydd-ddisgrifiad
Prif Gyfrifoldebau:
1. Ethos Ysgol
• Cynnal a rhoi gweledigaeth a nodau cytunedig yr ysgol ar waith;
• Hyrwyddo lles disgyblion bob amser; Hyrwyddo cyfle cyfartal o fewn amgylchedd dysgu sy'n gynhwysol; Sicrhau safon uchel o ofal corfforol ac emosiynol i bob disgybl; Gwella datblygiad moesol, ysbrydol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn y dosbarth ac yn ystod gwasanaethau ysgol; Hyrwyddo ymddygiad da, parch tuag at bawb a rheolau'r ysgol; Anelu at feithrin hunan-ddisgyblaeth ym mhob disgybl; disgwyl ymddygiad da a chwrteisi gan bob disgybl; Gweithredu holl bolisïau a gweithdrefnau ysgol gyfan; Hyrwyddo datblygiad y Gymraeg a dealltwriaeth disgyblion o Gymru, ei
threftadaeth a'i diwylliant; Adrodd i'r Pennaeth ar les, anghenion cymdeithasol a phersonol disgyblion
unigol.
2. Cynllunio
• Paratoi cynlluniau cwricwlwm tymor hir, tymor canolig a thymor byr, gan gadw i fyny â gofynion y Cwricwlwm Newydd.
• Cynhyrchu cynlluniau gwersi wythnosol a gwerthuso cynnydd disgyblion; Nodi anghenion disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA, MAT a
SIY) o fewn cynlluniau gwersi wythnosol a gwahaniaethu tasgau /
gweithgareddau yn unol â hynny. Cysylltu'n rheolaidd â'r CADY ac ystyried
CAU pob disgybl.