MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Dosbarth (Ysgol Gynradd Gymunedol Arddlin)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

Athro Dosbarth (Ysgol Gynradd Gymunedol Arddlin)
Swydd-ddisgrifiad
Ysgol Arddlin
Athro Dosbarth
32.5 awr, llawn amser
Yn ofynnol o Fedi 1af 2025
Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi Athro Dosbarth i ymuno â staff
ymroddedig Ysgol Gynradd Arddlin, i addysgu naill ai mewn dosbarth Blwyddyn 5/6 neu mewn dosbarth arall yn yr ysgol, yn dibynnu ar brofiad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ofalgar, llawn cymhelliant, medrus a deinamig - ac yn gwbl ymrwymedig i rôl a bywyd ehangach yr ysgol. Byddant yn meddu ar ddisgwyliadau uchel a safonau uchel, gyda hanes profedig o addysgu llwyddiannus, a gweithio mewn partneriaeth i'w ychwanegu at ein tîm. Byddant yn ymarferydd amryddawn sy'n gallu addysgu dysgwyr o bob oedran a gallu, yn cynnwys dysgwyr ag anghenion ychwanegol. Mae gwybodaeth ddwfn o Gwricwlwm i Gymru yn ddymunol. Gweler Disgrifiad Swydd am wybodaeth fanylach. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad uwch Cyngor Sir Powys gan y DBS a bydd angen dau eirda cyn y gall ymgymryd â'r swydd.
Rydym yn gwahodd pob darpar ymgeisydd i ymweld â'r ysgol. Cysylltwch â'r
Pennaeth, Mrs Rebecca Wilford, ar 01938 590445 neu drwy e-bost
head@arddleen.powys.sch.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12fed Mehefin 2025
Dyddiad y rhestr fer: 13eg Mehefin 2025
Dyddiadau cyfweliad: 26ain Mehefin 2025