MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: ISR: 19 – 25 (Grwp 5a)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swydd Pennaeth / Pennaeth Dros Dro (Ysgol Bro Caereinion)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: ISR: 19 – 25 (Grwp 5a)

Swydd Pennaeth / Pennaeth Dros Dro (Ysgol Bro Caereinion)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

SWYDD PENNAETH / PENNAETH DROS DRO
(croesewir secondiad)
Yn eisiau ar gyfer Medi 1af, 2025
ISR: 19 - 25 (Grwp 5a)
Nifer y disgyblion: ~ 491
Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Pennaeth uchelgeisiol, deinamig a gweledigaethol i ymuno â'r ysgol pob oed ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn ysgol Gymraeg flaenllaw ym Maldwyn, yng ngogledd Powys. Lleolir yr ysgol hon yn nhref marchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru, wyth milltir o'r Trallwng ac o fewn awr o daith o Aberystwyth. Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion 'yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau'r ysgol. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu'. I ddarllen yr adroddiad yn llawn cliciwch ar y ddolen hon: Adroddiad arolygiad Ysgol Bro Caereinion 2024
Dyma gyfle unigryw i unigolyn deinamig ac arloesol sydd â hanes profedig o weithredu ar lefel reolaeth uwch gyda sgiliau arwain strategol a gweithredol, sefydliadol a rhyngbersonol datblygedig. Byddwch wedi
ymrwymo i gyflwyno dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl ac i weithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned i ddarparu amgylchedd lle mae staff a disgyblion yn cael cymorth i gyflawni eu potensial llawn. Bydd cyfle euraidd i lunio dyfodol yr ysgol wrth iddi gychwyn ar ei thaith ar hyd continwwm yr iaith Gymraeg. Bydd cyfle hefyd i hyrwyddo rhagoriaeth ddwyieithog a chyfoethogi bywydau ein disgyblion a'n cymuned. Os ydych yn angerddol am addysg arloesol, wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd Cymraeg
ffyniannus, ac yn awyddus i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr hyderus, dwyieithog, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae Corff Llywodraethol wedi ymrwymo i ddod o hyd i bennaeth / bennaeth dros dro newydd a fydd yn:
• arweinydd ysbrydoledig ac arloesol, ac yn rheolwr newid effeithiol
• dangos ymrwymiad i gyflawni gweledigaeth Gymraeg Ysgol Bro Caereinion.
• canolbwyntio ar welliant parhaus, sicrhau ansawdd a safonau ac ysgogi staff a disgyblion fel ei gilydd
• dod ag egni ac ysgogiad i ddatblygu a chyflawni gweledigaeth a chyfeiriad strategol yr ysgol.
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Pennaeth / Pennaeth dros dro lle mae rhuglder llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol. (Lefel cymhwysedd 5 yn y Gymraeg).
Peidiwch ag oedi i gysylltu â Chadeirydd y Corff Llywodraethol - Myfanwy Alexander - pylonmyf@hotmail.co.uk neu Ymgynghorydd Gwella Ysgolion Arweiniol yr ysgol - Mrs Delyth Jones - delyth.jones1@powys.gov.uk am sgwrs anffurfiol. Croesewir ymweliadau â'r ysgol a gellir eu trefnu drwy gysylltu â Chadeirydd y Corff Llywodraethol. Os ydych yn gwneud cais am secondiad o'ch swydd bresennol, rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cael
cymeradwyaeth lawn gan eich corff llywodraethol. I wneud cais am y rôl, ewch i www.powys.gov.uk neu e-bostiwch recruitment@powys.gov.uk