MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Dros dro tan 1/3/28
37 awr yr wythnos
G07 - £30,559 - £32,115 y flwyddyn
Mae swydd Swyddog Derbyniadau wedi codi yn y Tîm Dechrau'n Deg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio ac yn gweinyddu'r broses derbyn gofal plant ar gyfer Dechrau'n Deg, i sicrhau bod pob plentyn cymwys yn cael y gofal plant Dechrau'n Deg y mae ganddynt hawl iddo trwy gydlynu prosesau penderfynu derbyniadau yn effeithiol, gan gymryd yr awenau ar gyfer y rowndiau derbyn tymhorol, dyrannu lleoedd a cheisiadau i drosglwyddo. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf wrth ddatrys problemau derbyn / derbyniadau cymhleth ac yn gyfrifol am gyfrifo, prosesu a monitro'r taliadau i ddarparwyr gofal plant. Mae'r swydd yn cynnwys goruchwylio'r tîm cymorth busnes gofal plant yn uniongyrchol i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal o ran perfformiad, a bydd wedi'i lleoli yn swyddfeydd Dechrau'n Deg yng Ngwenfro yn bennaf, gan gyflenwi o dro i dro mewn lleoliadau Dechrau'n Deg eraill yn Wrecsam.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod â phrofiad o ddefnyddio pecynnau TG a systemau talu yn y gweithle, ac o wneud gwelliannau i'w ymarfer. Yn ogystal, bydd angen i'r ymgeisydd allu i ymateb yn greadigol, mewn gwasanaeth sy'n newid yn gyflym, i sefyllfaoedd heriol newydd o ran darparwyr gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a pherthnasoedd, systemau, gweithdrefnau a dogfennaeth. Dylai'r ymgeisydd hefyd feddu ar sgiliau cyfathrebu llafar, ysgrifenedig a rhifiadol rhagorol, ynghyd â'r gallu i ddelio â materion dadleuol.
Am drafodaeth anffurfiol, ffoniwch Melita Colling, Cydlynydd Gwasanaeth Dechrau'n Deg, ar (01978) 287270.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyrsy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.