MANYLION
  • Lleoliad: Conwy,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes Cyfnod Mamolaeth - Ysgol Deganwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Ysgol Deganwy

Park Drive

Deganwy

Conwy

LL31 9YB

Ffôn: 01492 574600

Pennaeth: Mrs Zoe Pritchard Parry

Yn eisiau erbyn mis Medi 2025

ATHRO ATHRAWES CYFNOD MAMOLAETH

Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i groesawu ceisiadau ar gyfer y cyfle cyffrous hwn i ymuno â'n tîm llwyddiannus. Yr ydym yn dymuno penodi athro/athrawes rhagorol, llawn cymhelliant, i addysgu ein disgyblion dosbarth Derbyn

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • yn ymarferwr rhagorol sy'n gallu darparu profiadau dysgu ysgogol a heriol o'r safon uchaf i'n plant
  • yn barod i fod yn aelod effeithiol o dîm ymroddedig o athrawon a chynorthwywyr dysgu

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn:
  • datblygiad proffesiynol rhagorol
  • cefnogaeth cydweithwyr ymroddedig a brwdfrydig
  • amgylchedd cefnogol, gofalgar a hapus
  • disgyblion sydd yn awyddus i ddysgu ac yn glod i'r ysgol
  • rhieni a llywodraethwyr cefnogol

Mae'r gallu i ddysgu a chyfathrebu'n rhugl drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun datgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn dechrau cyflogaeth.

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â'r Pennaeth ar (01492) 574600.

Mae Conwy wedi ymrwymo i gymwysterau diogelu a bydd tystlythyrau'n cael eu gwirio

Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English