MANYLION
  • Lleoliad: Llandysul,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 25,584 - 26,835 *
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 - Ysgol Bro Teifi

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 25,584 - 26,835 *

Ynglŷn â'r rôl
Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 (Arweinydd Clwb yr Enfys) i ymuno ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion oed-cynradd gan sicrhau cynnydd grwpiau ac unigolion.

Manylion y swydd:
  • Cynllunio a darparu cyfleoedd i ddisgyblion ADY cynradd i ddatblygu sgiliau bywyd pwysig drwy brofiadau cyfoethog, bywyd go-iawn o fewn y darpariaeth Clwb yr Enfys.
  • Targedu ymyraethau i ddysgwyr penodol er mwyn sicrhau cynnydd priodol yn eu medrau.
  • Gyda mewnbwn athrawon ac arbenigwyr, cynllunio, amserlenni a darparu ymyraethau penodol ar lefel 1:1 ac o fewn grwpiau bach.
  • Arwain tîm bach o staff o fewn darpariaeth Clwb yr Enfys.
  • Cydweithio gyda thîm cynhwysiant ac athrawon yr ysgol i ddiwallu anghenion dysgwyr.
  • Cefnogi anghenion personol disgyblion yn unol â chanllawiau gofal personol yr ysgol.
  • Ymgymryd â hyfforddiant perthnasol i'r rôl.

Agorwyd yr ysgol ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy'r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae'n cynnig cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o'r lleiaf i'r hynaf.

Mae Clwb yr Enfys yn gwneud defnydd o ystafelloedd pwrpasol o fewn ardal oed cynradd yr ysgol sydd yn cynnwys ystafell ddosbarth, gofod allanol ac ystafell aml-synhwyraidd.

Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu'n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae oddeutu 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gan gynnwys tua 85 yn y chweched dosbarth.

Arolygwyd yr ysgol gan Estyn yn Nhachwedd 2024 ac adroddwyd bod:

"...staff a disgyblion Ysgol Bro Teifi yn cydweithio'n agos i greu awyrgylch deuluol a chynnal ethos cynhwysol a gofalgar. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn sicrhau bod popeth sydd eu hangen arnynt o ran gofal a chefnogaeth ar gael yn ddi-rwystr. O'r dysgu sylfaen i'r chweched dosbarth, mae'r disgyblion yn gwireddu arwyddair yr ysgol, 'Oni heuir, ni fedir', yn llwyddiannus, gan fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu'n ddinasyddion cyfrifol, parchus a charedig."

"Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Maent yn dangos parch at ei gilydd ac at staff ac maent yn annwyl a chroesawgar gydag ymwelwyr."

"Mae'r ddarpariaeth ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gryfder. O ganlyniad, mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion ADY yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn eu targedau. Mae'r ddarpariaeth ychwanegol a geir yn y canolfannau 'Hafan','Clwb Cwtsh' a 'Chlwb yr Enfys' yn cyfrannu'n werthfawr iawn at y gofal a'r gynhaliaeth i ddisgyblion sydd eu hangen. "

I ddysgu mwy am ein ysgol, ewch i'n gwefan: Ysgol Bro Teifi

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Pecyn Gwybodaeth

Os am drafodaeth anffurfiol ynglwn â'r swydd hon neu i gael taith o amgylch yr ysgol cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Cydlynydd ADY, Mrs Cei Pryderi ar 01559 362503 neu drwy e-bost,PryderiC7@broteifi.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Llandysul Yn hanesyddol, Llandysul oedd canolbwynt diwydiant gwlân Cymru, lle cyflogid miloedd o bobl yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Darllen mwy