MANYLION
  • Lleoliad: See Job Advertisement,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £19,034 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Arbenigol Uned Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC)

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £19,034 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Dyddiad Cychwyn: Medi 1af, 2025 (Dros Dro 31/08/2026)

Cymhorthydd Arbenigol Assesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynar (ABC) Lefel 3

Lleoliad - Ysgolion a Chanolfannau ABC Gwynedd ac Ynys Mon (Yn bennaf Ardal Dwyfor/Canolfan ABC Dwyfor)

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos

(39 wythnos y flwyddyn, tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy'n frwdfrydig i weithio gyda disgyblion ag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio mewn ysgolion a chanolfannau arbenigol. Byddai profiad o gefnogi disgyblion ag Anhwylder Iaith a /neu gymwysterau megis ELKLAN yn fanteisiol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig i'r ymgeiswyr llwyddiannus.

Mae lleoliadu'r swydd yn amrywio oddi fewn Dwyfor a bydd gofyn i'r ymgeisydd deithio i ardaloedd eraill yn achlysurol. ac Cyngor Gwynedd fydd y cyflogydd ar gyfer y Gwasanaeth.

Trywyddedd yrru llawn a mynediad at gar yn hanfodol I'r swydd yma.

.

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £17,858 - £19,034) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu â Einir Rees Jones, Uwch Athrawes Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio ar rif ffon 01286 679007.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.

Bydd y cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth diogelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn.

DYDDIAD CAU: 10:00y.b , Dydd Iau, 19eg o Mehefin, 2025.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi