MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Prif Raddfa Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Ddosbarth Ffrwd Gymraeg (Ysgol Gynradd Trefonnen)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Prif Raddfa Athrawon

Athro/Athrawes Ddosbarth Ffrwd Gymraeg (Ysgol Gynradd Trefonnen)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Swydd Athro/Athrawes Ffrwd Gymraeg llawn amser a pharhaol (Bl. 2 - 4)
Ei angen/Ei hangen o 1.9.25
Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol fro ddwy ffrwd yr Eglwys yng Nghymru, a reolir yn wirfoddol i blant 4 - 11 oed. Mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg a rhai drwy'r Saesneg. Ond mae pob un o'n disgyblion yn rhannu'r profiad o fyw a dysgu yng Nghymru. Yn adeilad yr ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, grŵp rhieni a phlant bach, a Ti a Fi (grŵp rhiant a phlant bach dwyieithog), grŵp cyn ysgol Blynyddoedd Cynnar
(cyfrwng Saesneg), Cylch Meithrin (grŵp cyn ysgol cyfrwng Cymraeg) a dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Clwb Gwyliau Haf Bwyd a Hwyl fuddiol ac Oergell Gymunedol hynod lwyddiannus.
Rydym yn chwilio am athro/athrawes sydd:
• yn ymarferydd dosbarth rhagorol sydd â gwybodaeth dda am addysgu yng Nghyfnod Allweddol 2, a dealltwriaeth o'r Cwricwlwm i Gymru,
• â disgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad,
• yn gweithio'n dda fel rhan o dîm,
• yn angerddol dros wneud gwahaniaeth i'r plentyn 'cyfan' ac
• yn fodlon dangos ymrwymiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau allgyrsiol.
Yn gyfnewid, gallwn gynnig i chi:
• Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
• Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
• Amgylchedd dysgu gofalgar sydd ag adnoddau da iawn
• Partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid
Croesewir ac anogir ymweliadau â'r ysgol - cysylltwch â swyddfa'r ysgol ar
01597822190 i drefnu ymweliad.
Dyddiad cau: 12.6.25
Llunio'r rhestr fer: 16.6.25
Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 23.6.25
Am ffurflen gais a manyleb swydd, ffoniwch 01597826409, e-bostiwch
recruitment@powys.gov.uk neu ymgeisiwch ar-lein ar www.powys.gov.uk