MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Blank
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Blank
Dirprwy Bennaeth Dros Dro (Ysgol GG Aber-miwl)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r dyddiad cau ar gyfer y rôl wedi cael ei ymestyn, dyma'r dyddiadau newydd -
Dyddiad cau: 09/06/2025
Dyddiad creu rhestr fer: 10/06/2025
Cyfweliadau: 16/06/2025
Ysgol G.G. Aber-miwl
Tyfu gyda'n gilydd-Growing together
Dirprwy Bennaeth Dros Dro
Ystyrir Secondiadau
32.5 awr, Cyfnod penodol, Cyfnod Mamolaeth
Dechrau Medi 2025
Mae Corff Llywodraethu Ysgol G.G. Aber-miwl yn bwriadu penodi Dirprwy Bennaeth Dros Dro brwdfrydig a rhagorol i ymuno â'n tîm ar gontract Cyfnod Penodol.
Ysgol bentref fach, ffrwd Saesneg yw Ysgol G.G. Aber-miwl, sy'n canolbwyntio ar amgylchedd ffyniannus a meithringar, gyda 79 o ddisgyblion ar y gofrestr. Rydym yn ymroddedig i greu amgylchedd dysgu cefnogol a bywiog lle caiff pob plentyn ei annog i ffynnu drwy ystod eang a chytbwys o brofiadau dysgu. Cyffrous cael cyhoeddi fod cyfle i Ddirprwy Bennaeth Dros Dro brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â'n hysgol, sy'n tyfu.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd delfrydol sy'n ymarferydd addysgu llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig iawn. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i ffurfio perthnasoedd cadarnhaol gyda'n disgyblion, staff a theuluoedd, gan feithrin amgylchedd cefnogol a chydweithredol. Byddant yn dangos moeseg gwaith o safon uchel, gan gynnwys prydlondeb eithriadol, gwaith tîm a sgiliau cydweithio sy'n hanfodol o fewn ein tîm addysgu bach. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymroddedig i ysbrydoli meddyliau ifanc ac yn frwd dros feithrin cariad at ddysgu, drwy'r Cwricwlwm i Gymru, gydag ymrwymiad i helpu ein dysgwyr i gyflawni eu potensial mwyaf.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
• Dangos a hyrwyddo gwerthoedd a thueddiad y Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth yng Nghymru.
• Ymarferydd dosbarth rhagorol gyda disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad.
• Arweinydd arloesol ac ysbrydoledig, yn ymgysylltu â diwygio'r cwricwlwm a blaenoriaethau cenedlaethol i ddiwallu anghenion ein holl randdeiliaid.
• Meddu ar hanes profedig o arwain mentrau i godi cyrhaeddiad.
• Mynd ati i hyrwyddo lles a diogelwch ein holl ddysgwyr.
• Dangos eu gwybodaeth a'u harbenigedd i gefnogi rôl y Cydlynydd ADY a dysgwyr yn ein hysgol.
• Dangos ymrwymiad wrth weithio ar y cyd gyda thîm ymroddedig o staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.
• Cynllunio, cyflwyno a marcio gwaith disgyblion yn unol ag anghenion unigol.
• Asesu, cofnodi ac adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad y disgyblion, wrth y disgyblion eu hunain, cydweithwyr fel y bo'n briodol a'r rhieni, gan gynnwys cynnal asesiadau ac arsylwadau athrawon.
• Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth ragorol o'r Cwricwlwm i Gymru i greu amgylchedd sy'n sicrhau ac yn hyrwyddo dysgu effeithiol ar draws y cwricwlwm cyfan.
• Brwdfrydig, gan feithrin yr egni a'r gallu i ysgogi, herio a chefnogi ein disgyblion.
• Hyrwyddo'r Gymraeg fel ail iaith yn amgylchedd ein hysgol drwyddi draw.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau sy'n gymesur â gradd y swydd a chymryd rhan yn yr adolygiad rheolaidd o gynnwys y swydd ddisgrifiad.
• Mynd i'r afael â pholisïau a threfniadau iechyd a diogelwch mewn modd rhagweithiol i sicrhau y cynhelir arferion gwaith diogel o safon uchel.
• Cefnogi a gweithredu egwyddorion ac arferion cyfle cyfartal fel y nodir ym Mholisi Cyfle Cyfartal yr ysgol.
Mae croeso mawr i ymgeiswyr gysylltu â'r ysgol i drefnu ymweliad gyda'r Pennaeth Dros Dro Miss Jenna Hughes drwy gysylltu â swyddfa'r ysgol ar 01686 630240 neu drwy ebost: office@abermule.powys.sch.uk
Bydd y cais llwyddiannus yn destun gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Gyngor Sir Powys a bydd angen dau eirda cyn y gallant ymgymryd â'r swydd.
Dyddiad cau: 5ed Mehefin
Dyddiad llunio rhestr fer: 6ed Mehefin
Dyddiad cyfweld: 11eg Mehefin