MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes (Ysgol Rhiw-Bechan)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

Athro / Athrawes (Ysgol Rhiw-Bechan)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Athro Parhaol Llawn Amser
Yn eisiau erbyn: Dydd Llun Medi 1af 2025
(Mae posib ymestyn y dyddiad at 3ydd o Dachwedd yn ddibynnol ar y
sefyllfa)
Mae Llywodraethwyr Ysgol Rhiw-Bechan am benodi ymarferydd profiadol,
rhagorol, brwdfrydig ac ymroddedig i ddysgu yn ein hysgol wledig, dwy ffrwd.
Fe ddisgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu dosbarth o blant oedran
cymysg Cymraeg iaith gyntaf mewn dosbarth Blwyddyn 2 a 3. Dylent fod â'r
gallu i arwain ac ysbrydoli plant i gyrraedd eu llawn botensial. Mae'n
hanfodol i'r ymgeisydd fod â sgiliau rhagorol wrth gyfathrebu yn rhugl
yn y Gymraeg. Os gwelwch yn dda nodwch unrhyw arbenigedd yn eich cais
neu sgiliau y medrwch eu cynnig i'r ysgol.
Mae ffurflenni cais a manylion y swydd ar gael gan
recruitment@powys.gov.uk
Dylid anfon y ffurflenni cais i'r Awdurdod Lleol neu i'r ysgol erbyn:
Dyddiad cau : Dydd Mawrth, Mehefin 17eg 12 o'r gloch yr hwyr
Dewis rhestr fer: Dydd Mercher, Mehefin 18fed 2025
Cyfweliadau: Dydd Mercher, 25ain 2025
Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r ysgol i drefnu ymweliad.