MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa G05 NJC pwynt 12- 19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

CALU Dros Dro - Ysgol Craig y Don

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa G05 NJC pwynt 12- 19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn

Ysgol Craig y Don

Clarence Drive, Llandudno, LL30 1TR

Tel: (01492) 878906

Pennaeth: Ms Sarah Coy

Yn eisiau erbyn mis Medi 2025

Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch Dros Dro

(Contract dros dro hyd at 31/08/2026)

Oriau: 32 ½ awr yr wythnos, tymor ysgol a 5 diwrnod hyfforddi

Cyflog: Graddfa G05 NJC pwynt 12- 19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn

Mae Llywodraethwyr Ysgol Craig y Don yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch brwdfrydig i'r swydd uchod i weithio gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 2. Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd.

Dylai deilydd llwyddiannus fod gyda, neu yn gweithio tuag at cymhwyster Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch.

Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r ysgol ar (01492) 878906

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English