MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: £12.64 yr awr (G02).
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £12.64 yr awr (G02).
Lleoliad gwaith: YsgolionMae'r cynllun Hwyl a Bwyd / Food and Fun yn gynllun gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd 5 mlynedd yn ôl i ddarparu brecwast a chinio maethlon i blant a fyddai fel arall yn mynd heb yn ystod gwyliau'r ysgol.
Yn dilyn diwedd taliad gwyliau lwfans Prydau Ysgol Am Ddim yn ystod Covid, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r cynllun hwn fel un o'r mesurau i liniaru'r "argyfwng costau byw".
Mae'r cynllun Hwyl a Bwyd yn gynllun a weithredwyd am o leiaf 12 diwrnod yn ystod gwyliau haf yr ysgol, wedi'i seilio ar safle ysgol ar gyfer plant a fyddai fel arall yn mynd heb fwyd a maeth priodol yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae wedi bod yn rhedeg eleni yn yr ysgolion canlynol:-
Ysgol Y Plas
Ysgol Bab Mochdre
Ysgol Bab Llanfairfechan
Ysgol Y Foryd
Ysgol Bro Gwydir
Ysgol Eirias
Ysgol Bryn Elian
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Celia Caldecott, Cydlynydd Grantiau Ymgysylltu a'r Cymunedol ( celia.caldecott@conwy.gov.uk / 01492 575377)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.