MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,027 i £24,404 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.45 i £12.64 yr awr
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Eglwys yng Nghymru Llangors)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,027 i £24,404 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.45 i £12.64 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Eglwys yng Nghymru Llangors)Swydd-ddisgrifiad
Cynorthwyydd Addysgu - Ysgol yr Eglwys yng Nghymru
11 awr yr wythnos (dydd Iau a dydd Gwener) 5.5 awr y dydd
Yn ofynnol 1 Medi 2025
Cyfnod Mamolaeth
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu brwdfrydig, uchel ei gymhelliant, sy'n angerddol am gefnogi dysgu ac adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant ag amrywiaeth o anghenion, ac sydd â'r wybodaeth, y sgiliau a'r galluoedd i wneud hynny.
Byddwch yn gweithio o dan arweiniad ein staff addysgu i weithredu a goruchwylio gweithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt gydag unigolion a grwpiau bach o ddisgyblion, yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan iddi. Gall hyn gynnwys cynorthwyo i gynllunio, paratoi a chyflwyno'r gweithgareddau dysgu, yn ogystal â monitro disgyblion, asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniad, cynnydd a datblygiad, o dan gyfarwyddyd yr athro
dosbarth. Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus allu gweithio'n gydweithredol ac yn hyblyg a meithrin perthnasoedd da gyda staff a rhieni allweddol, gan ddangos agwedd barchus a gofalgar tuag at bawb yn yr ysgol.
Mae croeso i chi gysylltu â'r ysgol i drefnu ymweliad neu i gael rhagor o fanylion os oes angen.
office@llangorse.powys.sch.uk neu 01874 658663.