MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,027 i £24,404 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.45 i £12.64 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Glantwymyn)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,027 i £24,404 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.45 i £12.64 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Glantwymyn)
Swydd-ddisgrifiad

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd
hon

CYNGOR SIR POWYS
FFEDERASIWN CARNO, GLANTWYMYN A LLANBRYNMAIR
Pennaeth: Mrs Bethan Gwawr Jones BAdd (Anrh)
Ffôn: 01650 511394
E-bost:office@glantwymyn.powys.sch.uk
Cymhorthydd Dosbarth
YSGOL GLANTWYMYN
Sydd yn rhan o Ffederasiwn Carno, Glantwymyn a Llanbrynmair
i ddechrau Medi 2025
Swydd cyfnod penodol (Awst 31 2026)
15 awr yr wythnos gyda'r posibilrwydd i ymestyn y contract yn unol â chyllideb yr ysgol 2026-2027
Nifer y disgyblion yn Ysgol Glantwymyn 80
Rydym yn chwilio am gynorthwyydd dysgu brwdfrydig i weithio fel aelod o'n tîm bach a chyfeillgar. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o weithio gyda phlant a rhaid iddynt fod yn siaradwr Cymraeg rhugl.
Yn Ysgol Glantwymyn rydym yn ymfalchïo mewn darparu addysg o safon uchel i'r holl ddisgyblion ochr yn ochr â darparu awyrgylch gofalgar, cynnes a chyfeillgar sy'n cael ei gefnogi hefyd gan dîm ymroddedig o staff, llywodraethwyr a rhieni. Mae trafodaethau neu ymweliadau anffurfiol i'w croesawu drwy apwyntiad ymlaen llaw gyda Pennaeth y Ffederasiwn Mrs Bethan G Jones neu'r Pennaeth Cynorthwyol Miss Llinos Roberts.
ffôn: 01650 511394
e-bost office@glantwymyn.powys.sch.uk
Mae pecynnau cais ar gael gan: Y Tîm Recriwtio, Neuadd Sir Powys, Llandrindod, LD1 5LG, 01597 826409 neu recruitment@powys.gov.uk
Dychwelir y ffurflenni cais i'r awdurdod erbyn y diwrnod cau