MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Soulbury EIP 17-20 \n+ 3 SPA\n
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Soulbury EIP 17-20 \n+ 3 SPA\n
Lleoliad gwaith: Bae Colwyn/Amrywiol/HybridMae Gwasanaethau Addysg Conwy yn chwilio am ymarferydd uwchradd profiadol i ymuno â'r Gwasanaeth Gwella Addysg i wneud rôl hanfodol i gefnogi a sicrhau addysg o'r safon orau i'r holl bobl ifanc yn ysgolion Conwy.
Mae hon yn swydd llawn amser a pharhaol i wella'r Gwasanaeth Gwella Addysg yn ystod cyfnod cyffrous o drawsnewid a datblygu. Mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth a her ddwyieithog i ysgolion er mwyn parhau i wella cyrhaeddiad a phrofiadau'r holl blant a phobl ifanc yn ein hysgolion a lleoliadau ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu cydweithwyr profiadol, arloesol, sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau, i ymuno â'r Gwasanaeth.
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y swydd, bydd gennych y sgiliau a'r arbenigedd i arwain ar agweddau o'r Gwasanaeth Gwella Addysg, yn enwedig o ran safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth i gefnogi agweddau statudol ac anstatudol addysg ym mhob lleoliad dan gyfarwyddyd Rheolwr y Gwasanaeth Gwella Addysg i sicrhau eu bod yn bodloni ac yn rhagori ar ofynion penodol. Byddwch yn gweithio'n agos gydag ysgolion, gwasanaethau, budd-ddeiliaid a'r Gwasanaeth Gwella Addysg yn ehangach i gasglu a rhannu gwybodaeth a chynllunio a chyflawni gwelliannau i sicrhau'r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc yng Nghonwy. Felly, bydd gennych gyfrifoldeb statudol clir dros sicrhau addysg o safon uchel yn ysgolion Conwy a darparu cefnogaeth ehangach i Awdurdodau Lleol cyswllt. Byddwch hefyd yn gweithio fel yr Ymgynghorydd Gwella i'r 7 ysgol uwchradd yng Nghonwy. Mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Telir cyflog y swydd ar raddfa Ymgynghorydd Addysg Soulbury a chroesawir ceisiadau gan uwch arweinwyr ysgol profiadol â hanes amlwg o wella perfformiad ysgol yn sylweddol neu fel gweithiwr proffesiynol mewn Awdurdod Lleol neu Gonsortiwm Rhanbarthol. Amlinellir manylion pellach am ddyletswyddau a chyfrifoldebau penodol y swydd yn y dogfennau atodol.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Clare Scanlon , Rheolwr Gwasanaeth Gwella Addysg ( clare.scanlon@conwy.gov.uk / 01492 575343)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.