MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Various,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: £22,935 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £22,935 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD
Dyddiad Cychwyn: Medi 2025
Uwch Gymhorthydd Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio - Lefel 4 - Parhaol
Dwy swydd (Ardal Meirionnydd, ond bydd gofyn i'r unigolion weithio ar draws Gwynedd a Môn hefyd)
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos
(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad o gefnogi a gweithio gyda disgyblion ag anawsterau cyfathrebu a rhyngweithio. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â dyletswyddau dysgu a chefnogi disgyblion ystod oedran 3 - 18 oed sydd ag anghenion cyfathrebu a rhyngweithio mewn ysgolion a chanolfannau arbenigol. Mae profiad o gefnogi disgyblion ag anawsterau niwroamrywiol yn hanfodol ar gyfer y swydd, mae cymwysterau megis ELKLAN, Ymyrraeth Diogelwch yn fanteisiol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (sef £21,142 - £22,935) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster
Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.
Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu â GweinyddolADYaCH@gwynedd.llyw.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 20fed o FEHEFIN 2025
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Y gallu i gydweithio ag ystod eang o bobl. Gallu i ddelio â phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
- Trefnu amser yn effeithiol
- Sgiliau cyfathrebu clir
- Gallu cydweithio fel aelod o dîm
- Gallu i weithio'n hyblyg
- Brwdfrydedd
- Trwydded yrru llawn a mynediad at drafnidiaeth
- Y gallu i gyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd
DYMUNOL
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Cymhwyster Cymhorthydd Addysgu Lefel Uwch e.e. Diploma neu gymhwyster neu brofiad cyfwerth
- Sgiliau rhif/llythrennedd ardderchog
- Hyfforddiant mewn strategaethau perthnasol i gefnogi anghenion arbennig
- Sgiliau/hyfforddiant arbenigol yn y maes cwricwlaidd neu ddysgu
Nam Clyw: Lefel 4 mewn BSL
Nam Golwg: Lefel 2 mewn Braille
Cyfathrebu a Rhyngweithio: Ymrwymiad i ddilyn hyfforddiant Lefel 2/3 yn y maes penodol (e.e. Elklan)
ADY Penodol: Ymrwymiad i ddilyn Cymhwyster neu Ddiploma ym maes Anhawsterau Dysgu Penodol
Cynnal Ymddygiad: Ymrwymiad i ddilyn Tysysgrif neu Ddiploma Lefel 2/3 (e.e. NVQ) neu gyrsiau penodol yn y maes (e.e. Webster-Stratton)
DYMUNOL
- Sgiliau/hyfforddiant arbenigol yn y maes cwricwlaidd neu ddysgu
Nam Clyw: Gradd mewn Byddardod
Nam Golwg: Dealltwriaeth gadarn mewn o leiaf 5 côd Braille
Synhwyraidd / Meddygol /Corfforol - Tysysgrif neu Ddiploma mewn Adsefydlu a Symudedd Nam Synhwyraidd
Cyfathrebu a Rhyngweithio: Cymhwyster Elklan Lefel 2 neu uwch
ADY Penodol: Cymhwyster neu Ddiploma ym maes Anhawsterau Dysgu Penodol
Cynnal Ymddygiad: Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2/3 (e.e. NVQ) neu fod wedi mynychu cyrsiau penodol yn y maes (e.e. Webster-Stratton)
- Hyfforddiant cymorth cyntaf fel y bo'n briodol
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o weithio gyda disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol.
DYMUNOL
Profiad o:
- Ddefnyddio dulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
- Gyfrannu a gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Ymwybodol o Strategaeth ADYaCh Gwynedd ac Ynys Môn
- Dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ADYaCh a'r Cod Ymarfer
- Dealltwriaeth o anghenion amrywiol
- Sgiliau cyfathrebu da a chadarn gyda'r gallu i gyfathrebu yn effeithiol gyda phobl a pharchu'r angen i fod yn gyfrinachol.
- Sgiliau cyfrifiadur da - defnydd effeithlon o TGaCh i gefnogi dysgu.
- Y gallu i gyflwyno syniadau a strategaethau i gyd-weithwyr yn hyderus
- Gwybodaeth weithio a phrofiad o weithredu cwricwlwm cyfnodol cenedlaethol/sylfaenol a rhaglenni/strategaethau dysgu eraill perthnasol.
- Dealltwriaeth dda o ddatblygiad a phrosesau dysgu plentyn
- Deall fframweithiau statudol perthynol i addysgu.
- Gweithio'n adeiladol fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau dosbarth a'ch sefyllfa chi eich hun o fewn y rheiny.
DYMUNOL
- Dealltwriaeth o Ddulliau Canolbwyntio ar yr Unigolyn
- Dealltwriaeth o Gynlluniau Datblygu Unigol
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.
Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.
Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio'r dull a'r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a'r gynulleidfa.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
- Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Cefnogi disgyblion ystod oedran 3 - 16 oed ag anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio yn ysgolion a chanolfannau arbenigol Gwynedd a Môn fel rhan o dîm integredig ADY a Chynwysiad.
- Gweithredu'r Côd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.
- Sefydlu perthynas weithiol, effeithiol gyda'r disgyblion gan weithredu fel unigolyn proffesiynol.
- Cyflenwi gwaith proffesiynol athro drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan gyfundrefn oruchwylio gytun. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolyn/ grwpiau a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac drodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.
- Cynnig arweiniad a chefnogaeth er mwyn rheoli cymorthyddion addysgu eraill, yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am Adnoddau.. e.e. staff, cyllid, offer
- Cynorthwyo'r Uwch Athrawes Arbenigol cyfathrebu a rhyngweithio efo dyletswyddau rheoli cymorthyddion addysgu eraill
- Ymgymryd a recriwtio/ anwytho/ gwerthuso/ hyfforddi/ mentora ar gyfer cymorthyddion addysgu eraill.
- Ffôn symudol.
- Gliniadur
- Creu adnoddau, fel rhan o dîm, i ategu at fanc adnoddau i ysgolion
- Offer TGCh i gefnogi dysgu'r disgyblion
Prif Ddyletswyddau..
Cefnogaeth i Ddisgyblion
- Darparu mewnbwn ymestyn allan i unigolion a grwpiau o blant yn eu hysgolion prif lif o dan Arweiniad yr Athrawon Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio, Uwch Seicolegydd Addysgol a Therapydd Iaith a Lleferydd, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh.
- Darparu mewnbwn i grŵp o blant o fewn Canolfannau'r Tîm Cyfathrebu a Rhyngweithio (h.y. Canolfannau Anhwylder Iaith a Chanolfannau Cyfathrebu Cymdeithasol) am gyfnod penodol o dan Arweiniad yr yr Athrawon Arbenigol Cyfathrebu a Rhyngweithio, Uwch Seicolegydd Addysgol a Therapydd Iaith a Lleferydd, yn unol â gofynion y Fforwm Ardal ADYaCh.
- Cymryd cyfrifoldeb am y grŵp o blant o fewn y Ganolfan Arbenigol pan fo'r Athrawes Arbenigol yn absennol ac yn darparu gwasanaeth yn y prif lif neu mewn Fforwm Ardal ADYaCh.
- Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu Cynllun Datblygu Unigol / Cynllun Cyfathrebu Unigol y disgyblion
- Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu'r disgyblion.
- Cyd-weithio gydag Athrawon Arbenigol yn y maes Cyfathrebu a Rhyngweithio ac asiantaethau eraill perthnasol.
- Cydweithio gyda Cymorthyddion o fewn yr ysgolion prif lif i fodelu pecynnau ymyrraeth effeithiol gyda'r disgyblion sydd yn cael sylw gan y Tîm Cyfathrebu a Rhyngweithio.
- Cefnogi'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anghenion arbennig ac yn arbennig anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio.
- Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
- Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabo a gwobrwyo cyflawniad a hunan-ddibyniaeth.
- Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas a chynnydd a chyflawniad.
- Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda'r disgyblion a chydweithwyr.
- Darparu gwybodaeth ar gyfer asesiad cyfansawdd o anghenion a chynnydd y disgyblion.
- Creu a darparu pecynnau gwaith arbenigol i ddisgyblion yn unol â'u Cynllun Datblygu Unigol/ Cynllun Cyfathrebu Unigol/Cynllun Meddygol os yn berthnasol.
- Rhannu arferion da gyda staff o fewn yr ysgol a modelu technegau yn ôl yr angen.
Cefnogaeth i Athrawon
- Ymweld ag ysgolion i gefnogi disgyblion ag anawsterau Cyfathrebu a Rhyngweithio.
- Cefnogi mynediad disgyblion i ddysgu drwy ddefnyddio strategaethau sydd wedi eu profi i fod yn effeithiol o dan arweiniad yr Athrawon Arbenigol.
- Gweithio gyda staff eraill megis athrawon arbenigol, seicolegwyr addysgol a therapyddion i gynllunio, arfarnu ac addasu deunyddiau a gweithgareddau dysgu fel y bo'n briodol.
- Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu drwy ystod o strategaethau asesu a monitro yn erbyn nodau dysgu a ragbenodwyd.
- Darparu adborth ac adroddiadau gwrthrychol a chywir i staff eraill ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
- Bod yn gyfrifol am gadw a diweddaru cofnodion fel y cytunwyd â staff eraill, cyfrannu at arolygu systemau/cofnodion fel bo'r gofyn.
- Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu strategaethau yn y maes hwn.
- Cyfrannu at Hyfforddiant Mewn Swydd i athrawon/cymorthyddion o dan arweiniad yr Uwch Seicolegydd Addysg a'r Athrawon Arbenigol o fewn y Tîm Cyfathrebu a Rhyngweithio.
- Cefnogi rhan rhieni yn nysgu'r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd/ arwain cyfarfodydd gyda rheini i ddarparu adborth adeildadol ar gynnydd/ cyflawniad disgyblion.
- Cefnogaeth glerigol/weinyddol, e.e. ymdrin â gohebiaeth, casglu/dadansoddi/adrodd gwybodaeth berthnasol, gwneud galwadau ffôn, ayyb.
- Gweinyddu ac asesu/ marcio profion a goruchwylio arholiadau/ profion
- Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau ayyb
Cefnogaeth i'r Cwricwlwm
- O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i'r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/ anghenion y disgyblion.
- Bod yn ymwybodol a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolion, ar gyfer darparu cefnogaeth i'r disgyblion i ehangu a chyfoethogi eu dysgu.
- Dethol a pharatoi adnoddau sy'n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.
Cyffredinol:
- Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau ADY a diogelu plant.
- Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol ein tîm integredig ADY a Chynwysiad.
- Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau eraill er mwyn cefnogi cyflawniad a chynnydd y disgyblion.
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chymryd rhan ynddynt.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo'n ofynnol.
- Adnabod hunan gryfderau ac ardaloedd arbenigedd a defnyddio'r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
- Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi