MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Pendalar, Caernarfon,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION ADDYSG ARBENNIG
YSGOL PENDALAR, CAERNARFON
(Arbennig 3 - 19: 115 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Medi, 2025.
ATHRO/ATHRAWES ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
(SWYDD DROS DRO)
Swydd dros dro am flwyddyn - hyd at 31/08/2026.
Mae'r Llywodraethwyr yn awyddus i benodi person ymroddedig a brwdfrydig sydd yn barod i fod yn rhan o dîm egnïol a gweithgar i ymgymryd â dyletswyddau addysgu disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) y flwyddyn ynghyd a lwfans Anghenion Addysgol Arbennig (£2,728 i £5,379 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth mewn gofal, Deiniol Harries. (Rhif Ffôn 01286 672141)
e-bost: i Deiniol.Harries@pendalar.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir gyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Sophie Eames, Swyddog Busnes, Ysgol Pendalar, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd (Rhif Ffôn: 01286 672141). Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU 22 O FAI, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Manylion Person
.
Swydd Ddisgrifiad
.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi