MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro\/Athrawes CA2 Dros Dro - Ysgolion Ffederasiwn Capel Coed-Elan

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

YSGOLION FFEDERASIWN CAPEL COED-ELAN

YSGOLION BETWS Y COED, CAPEL GARMON AC YSGOL DOLWYDDELAN

Pennaeth : Mrs Nia Jones-Artell

Yn eisiau erbyn mis Medi 2025

YSGOL CAPEL GARMON

Capel Garmon, LL26 0RL

Ffôn: (01690) 710287

ATHRO / ATHRAWES CYFNOD ALLWEDDOL 2 DROS DRO

(Cytundeb dros dro - Cyfnod Mamolaeth)

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Oriau: Llawn Amser

Mae'r Llywodraethwyr yn dymuno penodi athro/athrawes ymroddedig, brwdfrydig a chydwybodol sydd gyda profiad a Chyfnod Allweddol 2. Bydd cryfderau mewn unrhyw faes yn fanteisiol. Mae'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd yma.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Gwahardd a Datgelu ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar (01690) 710287

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English