MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Teachers Main Scale
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Cerdd a Drama - Ysgol Gymraeg Gwynllyw

Torfaen Local Authority

Cyflog: Teachers Main Scale

I gychwyn Medi 2025
A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy'n hyrwyddo arloesedd i'r dyfodol?
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.
Ni yw'r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a'r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.
Agorodd Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pwl, ac yn gyfleus iawn i'r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a'r M5 a phriffordd Pennau'r Cymoedd sy'n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio&©n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu'r gweithlu ac arloesi.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn parhau gyda'n datblygiadau o fewn adrannau cerddoriaeth a drama ac ar draws maes dysgu a phrofiad y celfyddydau mynegiannol drwy addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd, gan gynnwys cyflwyno cyrsiau addas (yn ôl arbenigedd yr unigolyn) yn CA4 a CA5.
Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i'n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua'r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.
Prif gyfrifoldebau
  • Addysgu disgyblion ar hyd yr ystod gallu gyda chyfle i ddysgu Lefel A i ymgeisydd addas
  • Sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei lawn botensial mewn awyrgylch gadarnhaol a chynhaliol
  • Cydweithio, datblygu a gweithredu strategaethau ysgol gyfan ar gyfer y Gymraeg
  • Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr o fewn yr adran Gymraeg ar draws y cyfnodau allweddol gwahanol a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon
  • Cydweithio wrth ddatblygu cwricwlwm newydd Cwricwlwm i Gymru ac unrhyw newidiadau pellach i TGAU / UG / Uwch
  • Cyfrannu at waith datblygu sgiliau ar draws yr adran, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd
  • Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i'n dysgwyr
*Gall dyletswyddau amrywio yn ôl penderfyniad yr UDA neu newidiadau cwricwlaidd
Disgwylir i berson sy'n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni'r gofynion isod:
  • Meddu ar ddealltwriaeth o dracio cynnydd dysgwyr;
  • Dealltwriaeth o safonau rhagorol o fewn y pwnc a thu hwnt;
  • Meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a'r Saesneg;
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm;
  • Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;

Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, lawrlwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan E-teach. Os ydych am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r ysgol i siarad â'r Pennaeth.

This is an advertisement for the post Welsh teacher in a Welsh Medium School. The ability to communicate fluently in Welsh is essential.