MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Teacher's Pay Scale
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Teacher's Pay Scale
Swydd barhaolGraddfa Cyflog Athrawon
I gychwyn Medi 2025
A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy'n hyrwyddo arloesedd i'r dyfodol?
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.
Ni yw'r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a'r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.
Agorodd Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pwl, ac yn gyfleus iawn i'r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a'r M5 a phriffordd Pennau'r Cymoedd sy'n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu'r gweithlu ac arloesi.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn parhau gyda'n datblygiadau o fewn adran y Gymraeg ac ar draws maes dysgu a phrofiad ieithoedd a chyfathrebu drwy addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd, gan gynnwys cyflwyno cyrsiau addas (yn ôl arbenigedd yr unigolyn) yn CA4 a CA5.
Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i'n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua'r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.
Prif gyfrifoldebau
- Addysgu disgyblion ar hyd yr ystod gallu gyda chyfle i ddysgu Lefel A i ymgeisydd addas
- Sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei lawn botensial mewn awyrgylch gadarnhaol a chynhaliol
- Cydweithio, datblygu a gweithredu strategaethau ysgol gyfan ar gyfer y Gymraeg
- Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr o fewn yr adran Gymraeg ar draws y cyfnodau allweddol gwahanol a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon
- Cydweithio wrth ddatblygu cwricwlwm newydd Cwricwlwm i Gymru ac unrhyw newidiadau pellach i TGAU / UG / Uwch
- Cyfrannu at waith datblygu sgiliau ar draws yr adran, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd
- Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i'n dysgwyr
*Gall dyletswyddau amrywio yn ôl penderfyniad yr UDA neu newidiadau cwricwlaidd
Disgwylir i berson sy'n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni'r gofynion isod:
- Meddu ar ddealltwriaeth o dracio cynnydd dysgwyr;
- Dealltwriaeth o safonau rhagorol o fewn y pwnc a thu hwnt;
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a'r Saesneg;
- Gallu gweithio fel rhan o dîm;
- Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;
Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, lawrlwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan E-teach. Os ydych am sgwrs anffurfiol cysylltwch â'r ysgol i siarad â'r Pennaeth.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 16eg o Fai 25
This is an advertisement for the post Welsh teacher in a Welsh Medium School. The ability to communicate fluently in Welsh is essential.