MANYLION
  • Lleoliad: Burry Port, Carmarthenshire, SA16 0NL
  • Pwnc: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 04 Mai, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Ysgol Parc y Tywyn

Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn
Dymunir Pennaeth a Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Parc y Tywyn i benodi athro/athrawes ymroddgar, brwdfrydig a chymwys i’r swydd uchod.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus i feddu ar y sgiliau i arwain a chydlynu'r maes dysgu a phrofiad iechyd a lles ar draws yr ysgol gan gynnwys gweithgareddau cymdeithasol, corfforol ac allgyrsiol.

Mae’r ysgol yn edrych am unigolyn :

• sydd yn angerddol i ddatblygu unigolion iach hyderus ar draws yr ysgol wrth sicrhau ystod o brofiadau pwrpasol o fewn y Cwricwlwm

• I gydlynu a chyfrannu yn helaeth at weithgareddau allgyrsiol.

• sydd a sgiliau addysgu a rhinweddau rhyngbersonol rhagorol

• i weithio fel rhan o dîm o staff ymroddgar

• i gynnal safonau cyrhaeddiad uchel

• brwdfrydig ac egniol sy’n barod i ddatblygu creadigedd trwy gyflwyno gofynion cwricwlwm newydd modern, sy’n seiliedig ar ddatblygu sgiliau

• Meithrin safonau, cynhwysiant a lles ein holl ddisgyblion gan gyfoethogi’r cwricwlwm trwy ymestyn profiadau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Mae’r gallu i siarad, ysgrifennu ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwbl angenrheidiol yn ogystal a brwdfrydedd dros yr iath a’r awydd i’w hyrwyddo.

Gallwn ni fel ysgol gynnig:

● Tîm o gydweithwyr hapus, cyfeillgar a chroesawgar.

● Tîm arweinyddiaeth ymroddedig, llawn cymhelliant ac ymroddedig sydd am ddatblygu arweinwyr y dyfodol.

● Plant brwdfrydig ac ymroddgar.

● Staff a Chorff Llywodraethol cefnogol.

● Y cyfle a’r her i weithio mewn ysgol Gymraeg llwyddiannus a blaengar mewn adeilad newydd sbon

Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Mr Craig Davies ar 01554 832101 / craig.davies@parcytywyn.ysgolccc.cymru

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.