MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £37,938 - £43,693 Pro Rata | Grade 8
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ymarferydd Arweiniol Ysgolion Sy’n Hybu Iechyd

Torfaen Local Authority

Cyflog: £37,938 - £43,693 Pro Rata | Grade 8

Parhaol 0.8 FTE
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Rydym yn chwilio am Swyddog egnïol ac ymroddedig i fod yn gyfrifol am Rwydwaith Ysgolion Cymru sy'n Hybu Iechyd a Lles, Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy, a'r Maes Dysgu Iechyd a Llesiant mewn ysgolion a lleoliadau ledled Torfaen.
Agwedd allweddol ar y rôl fydd cynghori a chefnogi ysgolion i'w galluogi i ddatblygu ymagwedd effeithiol a 'dull ysgol gyfan' tuag at iechyd ac addysg bersonol, gymdeithasol a llesiant sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi ysgolion i weithredu'r safonau cenedlaethol Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy'n Hybu Iechyd a Lles a sicrhau bod targedau cenedlaethol a lleol yn cael eu cyflawni. Mae rhai enghreifftiau o flaenoriaethau lleol, diweddar yn ymwneud â datblygu'r gwaith o olrhain adroddiadau Gwrth-fwlio ar-lein a datblygu Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth ar gyfer ysgolion. Bydd y swyddog yn datblygu rhaglenni systematig o gefnogaeth integredig, cyngor a hyfforddiant i godi safonau mewn ysgolion a lleoliadau ledled Torfaen, gan weithio ar y cyd ag ystod o bartneriaid a rhanddeiliaid.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon cysylltwch ag Alyson Costa (Seicolegydd Addysg Arweiniol) ar Alyson.Costa@torfaen.gov.uk .
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a bydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd..
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn..
Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.