MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gradd Tâl Athrawon + 1 Pwynt AAA
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gradd Tâl Athrawon + 1 Pwynt AAA
Athro Dosbarth (Ysgol Neuadd Brynllywarch)Swydd-ddisgrifiad
1. Ethos Ysgol
Cynnal, a rhoi ar waith, weledigaeth a nodau cytunedig yr ysgol;
• Hyrwyddo lles disgyblion bob amser; Hyrwyddo cyfle cyfartal o fewn amgylchedd dysgu sy'n gynhwysol; Sicrhau safon uchel o ofal corfforol ac emosiynol i bob disgybl; Gwella datblygiad moesol, ysbrydol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn y dosbarth ac yn ystod gwasanaethau ysgol; Hyrwyddo ymddygiad da, parch y naill i'r llall a rheolau'r ysgol; Anelu at feithrin hunan-ddisgyblaeth ym mhob disgybl; disgwyl ymddygiad da a chwrteisi gan bob disgybl; Gweithredu holl bolisïau a gweithdrefnau ysgol gyfan; Hyrwyddo datblygiad y Gymraeg a dealltwriaeth disgyblion o Gymru, ei
threftadaeth a'i diwylliant; Adrodd i'r Pennaeth ar les, anghenion cymdeithasol a phersonol disgyblion
unigol.
2. Cynllunio
• Paratoi cynlluniau cwricwlwm tymor hir, tymor canolig a thymor byr, gan gadw i fyny â gofynion y Cwricwlwm Newydd.
• Cynhyrchu cynlluniau gwersi wythnosol a gwerthuso cynnydd disgyblion; Nodi anghenion disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA, MAT ac
SIY) o fewn cynlluniau gwersi wythnosol a gwahaniaethu
tasgau/gweithgareddau yn unol â hynny. Cysylltu'n rheolaidd â'r Cydlynydd
Anghenion Dysgu Ychwanegol ac ystyried Cynllun Addysg Unigol pob disgybl.
3. Addysgu a Threfniadaeth yr Ystafell Ddosbarth
• Cynllunio, paratoi a chyflwyno gwersi sy'n bodloni anghenion pob disgybl yn y dosbarth; Creu amgylchedd dosbarth cadarnhaol, trefnus ac ysgogol lle mae disgyblion yn cael eu herio a disgwylir iddynt roi eu gorau; Bod â disgwyliadau uchel o bob plentyn a chyfleu hyn iddynt; Ymgyfarwyddo disgyblion ag arferion a chyfrifoldebau ystafell ddosbarth; Marcio gwaith yn rheolaidd a rhoi adborth adeiladol i ddisgyblion, ar lafar ac yn ysgrifenedig, fel y bo'n briodol; Sicrhau bod gwaith y plant yn cael ei arddangos i safon uchel; Gwneud defnydd effeithiol o adnoddau ystafell ddosbarth a chadw'r ysgol a'r ystafelloedd dosbarth yn daclus ac yn drefnus; Diogelu iechyd a diogelwch plant pan fyddant yn y dosbarth, pan fyddant ar
safle'r ysgol ac yn ystod gweithgareddau y tu allan i'r ysgol; Cadw cofnodion dyddiol o bresenoldeb disgyblion.