MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: L6 - L10
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: L6 - L10
Pwrpas y Swydd:Mae hon yn gyfle unigryw i berson profiadol a deinamig ymuno ag Uwch Dîm Arwain Ysgol Gymraeg Gwynllyw, yr unig ysgol bob oed yn Nhorfaen. Bydd y person llwyddiannus yn darparu arweiniad arbenigol a mewnbwn strategol i gryfhau dealltwriaeth yr arweinyddiaeth or cyfnod cynradd, codi safonau dysgu ac addysgu, a chyfrannu at ddatblygiad a gweledigaeth hir dymor yr ysgol. Mae'r rôl hon yn addas ar gyfer unigolyn sydd â hanes cryf o lwyddiant mewn addysg gynradd, efallai yn ystyried ymgeisio ar gyfer cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawieaeth ac sy'n barod i ddylanwadu ar arferion y tu hwnt i'w lleoliad presennol.
Prif Gyfrifoldebau:
Gweithio'n agos gyda'r UDA i wella eu dealltwriaeth a'u goruchwyliaeth strategol o'r cyfnod cynradd.
Cefnogi datblygu a gweithredu cynllun strategol ysgol gyfan gyda ffocws penodol ar ddarpariaeth gynradd.
Darparu cyngor a hyfforddiant o safon uchel, wedi'i seilio ar dystiolaeth, i staff cynradd i wella safonau addysgu a dysgu.
Helpu i ddatblygu a meithrin systemau cadarn ar gyfer cynllunio, asesu a chyflwyno'r cwricwlwm yn y cyfnod cynradd.
Monitro ac arfarnu effeithiolrwydd strategaethau addysgu a chefnogi gweithredu cynllun gwella.
Bod yn fodel arweinyddiaeth a chynnal safonau proffesiynol uchel bob amser.
Gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys rhieni, llywodraethwyr a chynrychiolwyr yr awdurdod lleol, i yrru gwelliant.
Cyfrannu at fentrau ysgol gyfan a sicrhau cydlyniad rhwng y cyfnodau cynradd ac uwchradd lle bo'n briodol.
'Cynigir' y rôl hon ar sail secondiad ac mae angen cefnogaeth pennaeth/cyflogwr presennol yr ymgeisydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ryddhau o'u rôl bresennol am y cyfnod y cytunir arno ar gyfer y secondiad. Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.