MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: NJC G05 pwynt 12-19 £22,395 - £25,107 y flwyddyn \n\n
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Bugeiliol\/Cyflenwr Gwersi Dros Dro - Ysgol Dyffryn Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: NJC G05 pwynt 12-19 £22,395 - £25,107 y flwyddyn \n\n
Ysgol Dyffryn ConwyYn eisiau erbyn Mis Medi 2025
Swyddog Bugeiliol Cyflenwr Gwersi Dros Dro
Contract dros dro hyd at 31/08/2026
Cyflog: NJC G05 pwynt 12-19 £22,395 - £25,107 y flwyddyn
Oriau: 34 ¾ awr yr wythnos - tymor ysgol a 5 diwrnod hyfforddiant.
Lleoliad - Ysgol Dyffryn Conwy.
Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol Gymraeg (categori 3) gyda 657 o ddisgyblion oedran 11-18 yncynnwys 110 yn y Chweched Dosbarth. Lleolir yr ysgol yn nhref Llanrwst gyda'r ysgol yn gwasanaethu'r dref a'r holl Ddyffryn. Yn Ysgol Dyffryn Conwy, credwn yn gryf mewn partneriaeth â'r disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â Mrs Ffion Sabit, Clerc y Llywodraethwyr ar e-bost fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau - Dydd Mawrth 06/05/2025
Dyddiad cyfweliad- Dydd Iau 15/05/2025
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English.