MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Clwb Brecwast - Ysgol Barkers Lane

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

GORUCHWYLIWR CLWB BRECWAST, PARHAOL

Barkers Lane, Wrecsam

Gradfa 02
£12.26 Y Awr

2.5 awr yr wythnos, yn ystod y tymor ysgol yn unig (cyfnod penodol)

Rydym ni'n chwilio am gymhorthydd arlwyo parhaol ar gyfer disgyblion sy'n mynd i'r clwb brecwast yn yr ysgol uchod.
Mae'r prif ddyletswyddau'n cynnwys:-
1 - Gosod y neuadd a'r byrddau i blant fwyta brecwast yno a threfnu adnoddau i'r plant chwarae gyda nhw.
2 - Dyletswyddau cegin cyffredinol, e.e. glanhau byrddau a thacluso llestri.
3 - Goruchwylio plant tra maent yn bwyta'u brecwast a'u cynorthwyo wrth wneud gweithgareddau fel chwarae gemau a gwaith celf.
4 - Tacluso adnoddau a sicrhau bod y cwpwrdd cadw'n daclus
5 - Unrhyw ddyletswyddau sy'n gymesur â natur a graddfa'r swydd, yn ôl cyfarwyddyd y Prif Gogydd.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.