MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: ISR: 13 – 19, Grŵp 2
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth (Ysgol Gynradd Gymunedol Llanidloes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: ISR: 13 – 19, Grŵp 2

Pennaeth (Ysgol Gynradd Gymunedol Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
PENNAETH
ISR: 13 - 19, Grŵp 2
Yn ofynnol ar gyfer Tymor y Gwanwyn 2026
Ffordd Llangurig, Llanidloes, Powys SY18 6EX
Mae corff llywodraethu'r ysgol gynradd lwyddiannus iawn hon yn dymuno penodi pennaeth llawn cymhelliant ac arloesol sy'n meddu ar y canlynol:
• Tystiolaeth o brofiad fel arweinydd, rheolwr ac athro rhagorol, sy'n ysbrydoli ac yn grymuso'r sawl o'i gwmpas
• Gweledigaeth glir i ddatblygu'r ysgol ymhellach, a'r sgiliau a'r penderfyniad i gyflawni'r weledigaeth honno gyda chefnogaeth staff, rhieni a llywodraethwyr
• Arwain ac ysgogi disgyblion, staff a'r gymuned ehangach i greu diwylliant effeithiol a chynhwysol o ddysgu gydol oes
• Disgwyliadau uchel o ddisgyblion a staff a'r gallu i symud yr ysgol ymlaen o'i sefyllfa hynol gadarnhaol presennol
• Gallu gweithio ar y cyd ac yn effeithiol gyda'r ffederasiwn, clwstwr, rhwydweithiau rhanbarthol a chenedlaethol
• Arwain ac ysgogi disgyblion, staff a llywodraethwyr i greu diwylliant effeithiol o ddysgu a pharhau i ddatblygu Cwricwlwm Cymru
• Agored i fentrau newydd, ymchwil a ffyrdd creadigol o weithio
Gallwn gynnig y canlynol i'r ymgeisydd cywir:
• cymuned lwyddiannus, gynhwysol a chroesawgar lle mae oedolion a disgyblion yn dangos lefel uchel o garedigrwydd, parch a chefnogaeth i'w gilydd.
• tîm staff ymroddedig a chefnogol iawn sy'n mwynhau gweithio gyda'i gilydd ar gyfer dyfodol eu disgyblion a'u hysgol
• Corff llywodraethu cyfranogol a rhagweithiol sy'n cefnogi'n weithredol weledigaeth yr ysgol o fewn y gymuned y mae'n ei gwasanaethu
• plant hapus, brwdfrydig sy'n awyddus i ddysgu ac sy'n mwynhau cael eu gwerthfawrogi fel unigolion
• ethos cadarnhaol wedi'i ymgorffori gan y sylwadau o'r arolygiad diwethaf:
"Mae Ysgol Gynradd Llanidloes yn gymuned ofalgar a chroesawgar sy'n meithrin ymdeimlad o berthyn yn ei disgyblion. Mae'r pennaeth yn darparu arweinyddiaeth effeithiol ac mae'n cael ei gefnogi'n dda gan staff sy'n gweithio gyda'i gilydd yn llwyddiannus fel tîm. Mae bron pob disgybl yn ymddwyn yn dda. Maent yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu ac yn
falch o'u hysgol. Lle bo hynny'n briodol, maent yn elwa o gymorth ychwanegol sy'n eu paratoi ar gyfer dysgu, er enghraifft trwy gael mynediad i Ganolfan Llesiant yr ysgol."
"Mae'r ysgol wedi'i ffedereiddio gydag Ysgol Uwchradd Llanidloes. Mae hyn yn golygu bod yr ysgolion yn rhannu un corff llywodraethu, ac yn gweithio'n agos ar ychydig o agweddau eraill. Er enghraifft, mae disgyblion oedran uwchradd yn cefnogi eu cyfoedion cynradd fel 'ffrindiau darllen' Cymraeg".
• amgylchedd dysgu tawel, pwrpasol a chefnogol gyda staff cyfeillgar, ymroddedig a gweithgar
• ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol a'ch lles personol
Llanidloes yw'r dref gyntaf ar lannau Afon Hafren ac mae'n enwog am ei hadeiladau ffrâm bren.
Mae'n dref hanesyddol swynol gyda nifer o safleoedd treftadaeth a lleoedd o harddwch naturiol, gan gynnwys yr Hen Neuadd Farchnad, eglwys St Idloes a chronfa ddŵr Clywedog. Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llanidloes yn ysgol cyfrwng Saesneg ac ar hyn o bryd mae ganddi 267 o ddisgyblion mewn 9 dosbarth. Mae'r cwricwlwm yn cael ei ategu ag ystod eang o weithgareddau allgyrsiol. Mae'r ysgol ar safle hardd yng nghanol bryniau mwyn canolbarth Cymru, tua 8 munud o daith gerdded o ganol y dref. Mae adnoddau da gan yr ysgol ac mae'n darparu amgylchedd ysgogol, cyffrous a phwrpasol i ddisgyblion. Mae ganddi safle mawr gyda chae chwarae, iard fawr, cae
rowndiau, maes chwarae antur, ardal dawel, Ysgol Goedwig, perllan a phwll. Rydym yn falch o'n statws Eco Academaidd platinwm a'n gwobr arian Campws Cymraeg. Fel ysgol rydym yn agored i syniadau newydd a chreadigol ac yn credu ym mhotensial pob plentyn sy'n ein gofal. Rydym yn
hyrwyddo Llais y Disgyblion yn gadarnhaol ac mae gennym Dîm Arweinyddiaeth Disgyblion, eco bwyllgor a Chriw Cymraeg rhagweithiol.
Rydym yn mwynhau ein safle yng nghanol cymuned fywiog a chreadigol lle edrychwn ymlaen at groesawu pennaeth newydd.
Mae croeso cynnes i chi ymweld â'n hysgol - cysylltwch â'r ysgol ar 01686 412603 i drefnu apwyntiad yn ystod prynhawn agored ddydd Iau 10 Ebrill neu ddydd Mercher 30 Ebrill.
Dyddiad cau: 11 Mai 2025
Rhestr fer: 19 Mai 2025
Diwrnodau cyfweliad: 4 a 5 Mehefin 2025
Efallai y bydd dyddiadau yn newid.
I gael ffurflenni cais a manylion pellach, ffoniwch 01597 826409, e-bostiwch recruitment@powys.gov.uk neu gwnewch gais ar-lein yn www.powys.gov.uk .

Mae gan y swydd hon ofyniad ar gyfer Gwiriad DBS Gwell.