MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: 32.5 awr, Parhaol
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro gyda Chyfrifoldeb (Canolfan Arbenigol) (Ysgol Uwchradd Llanidloes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: 32.5 awr, Parhaol

Athro gyda Chyfrifoldeb (Canolfan Arbenigol) (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
Athro Canolfan Arbenigol
Ysgol Uwchradd Llanidloes - Ariennir y swydd hon yn ganolog gan Gyngor Sir
Powys
Amdanom Ni:
Mae Canolfan Arbenigol Ysgol Uwchradd Llanidloes yn lleoliad addysgol pwrpasol sy'n gwasanaethu pobl ifanc â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig. Rydym am benodi athro sy'n ymroddedig i reoli'r amgylchedd calonogol a chynhwysol hwn lle gall pob dysgwr ffynnu.
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o'r ysgolion hapusaf, mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Rydym wedi cael ein bendithio â diwylliant dysgu bywiog a llewyrchus, ethos hynod ofalgar a thîm o staff sy'n ymroddedig dros ben. Dyma gyfle cyffrous i rywun ymuno â'r ysgol mewn rôl sy'n werth chweil dros ben a gweithio gyda grŵp o bobl ifanc anhygoel.
Manylion y Swydd:
Rydym yn chwilio am Athro Canolfan Arbenigol angerddol a phrofiadol i ymuno â'n tîm ymroddedig. Fel Athro Canolfan Arbenigol, byddwch chi'n gyfrifol am:
• Cyflwyno addysg sy'n benodol i'r unigolyn o ansawdd uchel i'r ganolfan
gofrestru awtistig, gyda llawer ag anghenion ADY eraill.
• Cyflwyno addysg unigol o ansawdd uchel i'n dysgwyr canolfan arbenigol
awtistig, llawer ohonynt ag ystod o anghenion ADY eraill.
• Meithrin man diogel pwrpasol yn yr ysgol sy'n gwella profiad prif ffrwd ac
anghenion cyfathrebu cymdeithasol ein dysgwyr canolfan arbenigol.
• Datblygu a gweithredu strategaethau a chynlluniau addysgu effeithiol i gefnogi cynnydd dysgwyr ein canolfan arbenigol, o fewn y ganolfan ac yn yr ysgol ehangach.
• Cydweithio â gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill ac asiantaethau allanol ill ddau i gefnogi ein dysgwyr canolfan arbenigol.
• Cefnogi pobl ifanc o'n canolfan arbenigol a'u teuluoedd i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl iddynt.
• Cyfrannu at welliant cyffredinol darpariaeth ADY yr ysgol.
Gofynion:
• Statws Athro Cymwysedig (SAC) neu gymhwyster cyfwerth.
• Profiad o addysgu disgyblion ag ADY.
• Gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn o Gyflwr Sbectrwm Awtistig mewn pobl
ifanc
• Dealltwriaeth gref o ddeddfwriaeth ac arferion gorau ADY Cymru.
• Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
• Y gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm.
• Ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.