MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + CAD 2c
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Arweinydd Maes Celfyddydau Mynegiannol - Ysgol Dyffryn Conwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + CAD 2c
Ysgol Dyffryn ConwyFfordd Nebo, Llanrwst, Conwy. LL26 0SD
Ffôn: 01492 642802
E-bost: fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk
www.ysgoldyffrynconwy.org
Yn eisiau erbyn mis Medi 2025
Arweinydd Maes Celfyddydau Mynegiannol
Gyda Chyfrifoldeb am Ddrama (TGAU/Lefel A)
Parhaol
Oriau: Llawn Amser neu gall ystyried rhan amser
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + CAD 2c
Mae Ysgol Dyffryn Conwy yn ysgol Gymraeg (categori 3) gyda 657 o ddisgyblion oedran 11-18 yn cynnwys 110 yn y Chweched Dosbarth. Lleolir yr ysgol yn nhref Llanrwst gyda'r ysgol yn gwasanaethu'r dref a'r holl Ddyffryn.
Yn Ysgol Dyffryn Conwy credwn yn gryf mewn partneriaeth a'r disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach. Cynigwn i bob disgybl beth bynnag eu gallu a chefndir ymdeimlad o werth, hunan hyder ac ysgol hapus a chartrefol. Anelwn at ddarparu'r addysg orau posib i ddatblygu dysgwyr yn hyderus ddwyieithog ac yn ddysgwyr annibynnol gyda'r sgiliau angenrheidiol i'r dyfodol.
Ein nod yw datblygu pob plentyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial mewn sawl maes a thrwy amrywiol weithgareddau a chyfleoedd. Sicrheir cwricwlwm addas, eang a heriol i bob plentyn. Credwn mewn llwyddiant i bawb, gan roi pob cymorth iddynt lwyddo.
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Cofnodi Troseddau. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon. Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu a bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i'r swydd yma.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â Mrs Ffion Sabit, Clerc y Llywodraethwyr
ar e-bost fs@dyffrynconwy.conwy.sch.uk
Dyddiad cau: Hanner Nos, Dydd Mawrth 29/04/2025
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal: Dydd Iau 08/05/2025
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio. Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen. Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad