MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Disgrifiad

Ysgol Acrefair
Tower View, Ffordd Llangollen, Acrefair, LL14 3SH
Ffôn: 01978 820616
Pennaeth: Rebecca Turner
Cadeirydd y Llywodraethwyr: Louise Buchanan
Cyfanswm Nifer ar y Gofrestr: 210
PENNAETH
I ddechrau ym mis Medi 2025 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny
Arweinyddiaeth L12 £66,430 - L18 £77,000
Mae Llywodraethwyr yr Ysgol yn gwahodd Penaethiaid presennol neu ymarferwyr profiadol sydd â chymhwyster CPCP i wneud cais am rôl y Pennaeth.
Mae Ysgol Acrefair yn ysgol ofalgar a chynhwysol lle mae ein disgyblion wrth wraidd popeth a wnawn. Mae gennym ddisgyblion brwdfrydig iawn, staff sefydlog ac ymroddgar, rhieni cefnogol a chorff llywodraethu ymroddedig a gweithredol.
Mae Ysgol Acrefair yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg, un dosbarth mynediad gyda disgyblion o Acrefair a'r ardal gyfagos.
Mae'r Llywodraethwyr yn ceisio penodi Pennaeth llawn cymhelliant gyda sgiliau arwain rhagorol a'r ymrwymiad a'r ysgogiad i gynnal safonau uchel, lefelau uchel o gyflawniad a pharhau i adeiladu ar gryfderau ein hysgol.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus:
• ddangos arweinyddiaeth gref a deinamig
• adeiladu ar gryfderau ein hysgol
• modelu ac ysbrydoli ymarfer dosbarth rhagorol a chynnal angerdd cryf dros addysgu a dysgu.
• cymell ac ysbrydoli'r holl ddisgyblion a'r staff
• meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol
• datblygu potensial llawn pob plentyn ym mhob agwedd ar fywyd ysgol
• dangos ymrwymiad cryf i hybu lles a llais y disgybl
• creu amgylchedd sy'n sicrhau dysgu effeithiol i bob disgybl ac sy'n hyrwyddo safonau uchel o ran cyflawniad.
Bydd y Pennaeth presennol yn cynnal dau gyfle i ymweld â'r ysgol yn ystod y cyfnod ymgeisio, am 2pm ddydd Mercher 30 Ebrill a dydd Iau 1 Mai, y byddai croeso mawr i chi yno. I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad, cysylltwch â Mrs Rebecca Turner ar 01978 820616
Bydd y Corff Llywodraethu yn ystyried arfer ei hawliau i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt yn y raddfa gyflog sy'n briodol i'w sgiliau a'i arbenigedd, yn unol â'r DCAAY.
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein hwn ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion eto - llenwch y ffurflen gais PDF sydd wedi'i hatodi isod yn electronig os gwelwch yn dda.
Rhaid anfon ceisiadau wedi'u cwblhau drwy e-bost at: LucySaiet.Jones@wrexham.gov.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio - Dydd Gwener 2 Mai 2025 am hanner dydd.
Llunio rhestr fer - Dydd Iau 8 Mai.
Gweithgareddau yn yr ysgol - 14, 15 a 16 Mai.
DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 2 Mai 2025
CYFWELIADAU: Dydd Llun 19 Mai 2025