MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Cyfle secondiad ar gyfer Tymor yr Haf - Dirprwy Bennaeth Dros Dro yn Ysgol Gynradd Penrhyn New Broughton i ddechrau ar 28 Ebrill neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.
Ystod Arweinyddiaeth: 6-10
Oherwydd cyfnod o absenoldeb a drefnwyd ar gyfer tymor yr Haf, mae Ysgol Gynradd Penrhyn New Broughton yn dymuno secondio Dirprwy Bennaeth Dros Dro yn ein hysgol gynradd hapus a meithringar. Rydym yn chwilio am arweinydd ysgol sy'n gallu meithrin, cefnogi ac ysbrydoli ein plant gwych a'n staff ymroddgar. Rydym am benodi unigolyn arloesol a hynod gryf ei gymhelliant sydd â sgiliau arwain rhagorol ar gyfer tymor yr haf. Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd eisiau datblygu ei sgiliau a'i brofiad o arwain.
Fel Dirprwy Bennaeth Dros Dro, byddwch yn cefnogi'r Pennaeth i arwain tîm ymroddgar ac angerddol, gan ddarparu arweinyddiaeth broffesiynol er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn parhau ar ei thaith o welliant ac yn darparu addysg o ansawdd uchel i'n disgyblion i gyd.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus:
• Ddangos arweinyddiaeth gref a deinamig.
• Adeiladu ar gryfderau ein hysgol mewn cydweithrediad â staff, disgyblion a rhieni.
• Modelu ac ysbrydoli ymarfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, yn enwedig yn y dosbarth Blwyddyn 6 ac ar draws yr ysgol, gan gynnal angerdd cryf dros addysgu a dysgu a chynorthwyo staff wrth ddathlu eu llwyddiannau.
• Ysgogi, ysbrydoli ac ennyn diddordeb yr holl ddisgyblion a staff yng nghymuned yr ysgol.
• Meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol â'r holl randdeiliaid.
• Dangos ymrwymiad cryf i hybu lles a llais y disgybl.
• Cynnal a chryfhau'r cysylltiadau ar draws y gymuned gan hyrwyddo arfer gorau a pherthnasau cadarnhaol i ddatblygu'r ysgol yn ei chyfanrwydd ymhellach.
• Meithrin amgylchedd sy'n sicrhau ymddygiad cadarnhaol, parch, goddefgarwch ac amrywiaeth i bob disgybl ac sy'n hybu safonau uchel o ran cyflawniad.
• Bod yn ymrwymedig i ddull meithringar sy'n cefnogi ein holl ddisgyblion a'u teuluoedd.
Bydd angen i chi gael caniatâd eich Pennaeth / Rheolwr cyn mynegi diddordeb yn y swydd.
Croesewir ymweliadau â'r ysgol cyn gwneud cais. I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu apwyntiad ar gyfer ymweliad, cysylltwch â'r ysgol ar Wrecsam 269920.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.