MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 8 Pwynt 19 i Bwynt 22 £31,067 i £32,654 y flwyddyn ar gyfartaledd £16.10 i £16.92 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 17 Ebrill, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Clercio/Gweinyddiaeth - Lefel 4 (Generig) (Ysgol Neuadd Brynllywarch)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 8 Pwynt 19 i Bwynt 22 £31,067 i £32,654 y flwyddyn ar gyfartaledd £16.10 i £16.92 yr awr
Clercio/Gweinyddiaeth - Lefel 4 (Generig) (Ysgol Neuadd Brynllywarch)Swydd-ddisgrifiad
O dan gyfeiriad cyffredinol y Pennaeth a'r Uwch Dîm Arwain, mynd ati i reoli a
chyflwyno gwasanaethau cefnogi o fewn yr ysgol a chynllunio, datblygu a monitro gwasanaethau cefnogi, gan gynnwys comisiynu a dirprwyo gweithgareddau perthnasol.
Rheoli tîm o staff clercio/ gweinyddu. Cael ychydig o gyfrifoldeb cyllidebol.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb dros eraill:
Mae effaith anuniongyrchol sylweddol gan y swydd ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch) trwy gyfrannu tuag at gynllunio o fewn yr ysgol, datblygu polisïau ysgol a chyflwyno gwasanaethau cefnogi i'r ysgol.
Cyfrifoldeb dros staff:
Mae cyfrifoldeb gan y swydd dros yr holl staff cefnogi (rhwng 4 - 12) sy'n cynnwys gwahanol grwpiau o staff sy'n gyfrifol am wahanol feysydd o weithgareddau.
Cyfrifoldeb dros adnoddau ariannol:
Mae cyfrifoldeb gan y swydd hon dros reoli gweithdrefnau gweinyddu ariannol, gan gynnwys cyfrifoldeb dros gydymffurfiaeth gyda rheoliadau ariannol a chyfrifo ar gyfer incwm a gwariant.
Cyfrifoldeb dros adnoddau ffisegol:
Mae ychydig o gyfrifoldeb uniongyrchol gan y swydd dros adnoddau ffisegol, gan gynnwys trin a thrafod/prosesu gwybodaeth yn ofalus, yn gywir, yn gyfrinachol ac yn ddiogel, a chynnal a chadw adnoddau/deunyddiau/cyfarpar