MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon Ystafell Ddosbarth
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes (Ysgol Uwchradd Llanidloes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa Gyflog Athrawon Ystafell Ddosbarth

Athro / Athrawes (Ysgol Uwchradd Llanidloes)
Swydd-ddisgrifiad
Athro/ Athrawes Anghenion Addysgol Ychwanegol (AAY) / Ahhrawes / Athro Saesneg
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn un o'r ysgolion mwyaf hapus a llwyddiannus yng Nghymru. Rydym wedi'n bendithio â diwylliant dysgu bywiog a llewyrchus, ethos gofalgar a thîm staff ymroddedig dros ben. Dyma gyfle arbennig ar gyfer athro/ athrawes AAY ysbrydoledig i ymuno
ag ysgol ardderchog, categori gwyrdd yng Nghanolbarth Cymru wledig, hardd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
• yn ofalgar am les a llwyddiant academaidd pob disgybl;
• yn medru addysgu disgyblion ag AAY yn effeithlon hyd at a chan gynnwys TGAU; byddai gallu cynnig Saesneg o fantais; yn medru datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgyblion yn effeithlon; yn weithgar, yn ysbrydoli cariad tuag at ddysgu ac yn sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd y safon academaidd uchaf posibl; yn ddynamig yn y dosbarth ac yn cynnal safonau uchel iawn o addysgu a dysgu; â sgiliau rhyngbersonol rhagorol, yn aelod da o dîm ac yn medru gweithio'n annibynnol; â sgiliau trefniadol gwych ac etheg gwaith cryf; â gwybodaeth dda o ddeddfwriaeth a gweithdrenau AAY cyfredol ac arferion person ganolog, cynhwysol; yn cyfrannu'n llawn tuag at ddarparu cyfleoedd allgyrsiol; ag agwedd bositif tuag at ddatrys problemau.
Datganiad Diogelu
Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes wedi ymrwymo I ddiogelu a hyrwyddo lles plant, poble ifanc ac oedolion sy'n agored I niwed ac mae diswyl I'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Rhydym un croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac i gynnig ail bwnc yn hanfodol. Mae croeso i ANG wneud cais.
Y dyddiad terfyn ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, dydd Sul, 27 Ebrill. Bydd y rhestr fer yn digwydd erbyn 28 Ebrill a chyfweliadau ddydd Iau 1 Mai 2025.
angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Amanda Beese.