MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Glan y Môr, Pwllheli,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £49,944 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Ebrill, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ysgol Glan Y Mor

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £49,944 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

YSGOLION UWCHRADD

Ysgol Glan y Môr, Pwllheli

(Ysgol Gyfun 11 - 16: 507 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer 1af Medi 2025

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Swydd Dros dro hyd at 31/08/2026 yn y lle cyntaf.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: Llawn Amser

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr. Guto Wyn 01758 701244.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mr Robin Llywelyn Roberts, Rheolwr Busnes, Ysgol Glan Y Mor, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5NU (Rhif ffôn: 01758 701244) ; e-bost: sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 12:00 Y.P, DDYDD MERCHER, 09 EBRILL, 2025.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi