MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Disgrifiad

Ysgol Tanyfron

Tanyfron Road, Tanyfron, Southsea, Wrexham LL11 5SA

Ffordd Tanyfron, Tanyfron, Southsea, Wrecsam LL11 5SA

Tel / Ffon: 01978 758118

e-mail: mailbox@tanyfron-pri.wrexham.sch.uk

Headteacher / Pennaeth: Mrs J. Jones

Chair of Governors: Mr S Wynne

Pennaeth - Ysgol Gynradd Tanyfron

Ysgol Tanyfron Primary School, Tanyfron Road, Tanyfron, LL11 5SA Tel: 01978 758118

Pennaeth: Mrs Jenna Jones

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Mr Simon Wynne

Cyfanswm ar y Gofrestr: 142 o ddisgyblion

I ddechrau 1 Medi 2025

Graddfa Arweinyddiaeth L9 - L15

Mae'r Corff Llywodraethol yn gwahodd Penaethiaid mewn swydd neu ymarferwyr profiadol sydd â chymhwyster CPCP i wneud cais am rôl Pennaeth.

Mae Ysgol Tanyfron yn ysgol gynhwysol a llwyddiannus lle mae disgyblion yn ffynnu ac yn dod yn fersiynau gorau ohonyn nhw eu hunain. Rydym yn darparu amgylchedd diogel a hapus i'n disgyblion ac yn gosod eu lles wrth galon popeth a wnawn. Ysgol cyfrwng Saesneg yw'r ysgol ac mae'n darparu ar gyfer disgyblion o Tanyfron a'r cyffiniau. Mae disgyblion yn uchel eu cymhelliant ac mae gan yr ysgol dîm ymroddgar a gofalgar o staff sy'n gweithio'n agos gyda chorff llywodraethu ymroddedig a gweithgar. Mae dysgu yn yr awyr agored yn rhan ganolog o'n hamgylchedd dysgu yn Ysgol Tanyfron ac rydym yn ffodus iawn i gael ysgol goedwig fendigedig a darpariaethau awyr agored mawr y gall ein disgyblion ddysgu ynddynt.

Mae'r Corff Llywodraethol am benodi Pennaeth ysbrydoledig sy'n llawn cymhelliant, sydd â sgiliau arwain rhagorol ac sy'n ymroddedig i barhau i yrru a chynnal safonau a lefelau cyflawniad uchel.

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus:

• dangos arweinyddiaeth gref a deinamig

Byddai croeso i ymweliadau cyn ymgeisio â'r ysgol. Am ragor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad cysylltwch â phennaeth yr ysgol.

Bydd y Corff Llywodraethol yn ystyried arfer ei hawliau i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt yn yr ystod cyflog sy'n briodol i'w sgiliau a'i arbenigedd, yn unol â'r STPCD.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Gofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg.



Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein hwn ar gael eto ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion, llenwch y ffurflen gais PDF isod yn electronig.

DYCHWELWCH FFURFLENNI CAIS WEDI'U CWBLHAU YN UNIONGYRCHOL AT MR SIMON WYNNE, CADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR drwy e-bost i wynnes21@hwbcymru.net

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwch fod pob swydd ysgol yn amodol ar DBS uwch (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

DYDDIAD CAU: Hanner dydd Dydd Llun 28 Ebrill 2025

Y BROSES CYFWELIAD YN DECHRAU: W/C 5 Mai 2025

CYFWELIADAU: 13 Mai 2025