MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 (Cymorth Unigol) x4

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL Y GRANGO
Allt TÅ• Gwyn,
Rhos
Wrecsam
LL14 1EL
Ffôn: 01978 833010
E-bost: info@grango.co.uk
Pennaeth: Ms V Brown BA Anrhydedd, CPCP

G04 - £16,214 - £16,471 y flwyddyn
29 awr yr wythnos
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB UNRHYW WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 i weithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad uniongyrchol y Cydlynydd ADY, i gyflawni rhaglenni gwaith/gofal/cymorth, i ganiatáu mynediad disgyblion at ddysgu a darparu cymorth i'r athrawon i reoli'r disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Gallai'r gwaith gael ei wneud yn yr ystafell ddosbarth neu'r tu allan i'r brif ardal addysgu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r disgybl yn y dosbarth ac yn gweithio'n unigol ar gynllun addysg a baratowyd.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Am fwy o wybodaeth ynglÅ•n â'r swydd cysylltwch â'r Cydlynydd ADY, Mrs K Sharpe ar y rhif uchod.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Gellir hefyd eu lawrlwytho ar wefan yr ysgol www.grango.co.uk.

ANFONWCH Y FFURFLEN GAIS WEDI'I LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT YR YSGOL dros e-bost info@grango.co.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.