MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: ISR: 13 – 17 (Grwp 5a)
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swydd Dirpwy Bennaeth (Ysgol Bro Caereinion)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: ISR: 13 – 17 (Grwp 5a)

Swydd Dirpwy Bennaeth (Ysgol Bro Caereinion)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

SWYDD DIRPRWY BENNAETH
Yn eisiau ar gyfer Medi 1af, 2025
ISR: 13 - 17 (Grwp 5a)
Nifer y disgyblion: ~ 491
Mae'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth uchelgeisiol, deinamig a gweledigaethol i ymuno â'r ysgol pob oed ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn ysgol Gymraeg flaenllaw ym Maldwyn, yng ngogledd Powys. Lleolir yr ysgol hon yn nhref marchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru,
wyth milltir o'r Trallwng ac o fewn awr o daith o Aberystwyth.
Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion 'yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau'r ysgol. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu'.
I ddarllen yr adroddiad yn llawn cliciwch ar y ddolen hon: Adroddiad arolygiad Ysgol Bro Caereinion 2024
Dyma gyfle unigryw i unigolyn, sydd eisiau datblygu a meithrin profiad eang o
arweinyddiaeth mewn ysgol sydd yn trawsnewid. Bydd cyfle euraidd i lunio dyfodol yr ysgol wrth iddi gychwyn ar ei thaith ar hyd continwwm yr iaith Gymraeg. Bydd cyfle hefyd i hyrwyddo rhagoriaeth ddwyieithog a chyfoethogi bywydau ein disgyblion a'n cymuned. Os ydych yn angerddol am addysg arloesol, wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd Cymraeg ffyniannus, ac yn awyddus i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr hyderus, dwyieithog,
byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae'r ysgol yn chwilio am unigolyn eithriadol o'r safon a'r gallu uchaf a fydd yn:
• dod â brwdfrydedd, ymrwymiad, meddwl arloesol a phrofiad llwyddiannus i helpu i fwrw ymlaen â gweledigaeth ac uchelgeisiau Ysgol Bro Caereinion fel ysgol cyfrwng Cymraeg pob oed
• gweithio gyda'r Pennaeth a'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i ddarparu arweinyddiaeth gref, effeithiol a strategol i'r ysgol yn cyd-fynd â'i gweledigaeth uchelgeisiol, wrth iddi barhau ar daith o drawsnewid a newid
• bod yn gyfathrebwr effeithiol, sy'n gallu arwain, ysgogi a chefnogi staff a disgyblion fel ei gilydd i roi eu gorau ym mhopeth y maent yn ei wneud
• arwain ar addysgu, dysgu a datblygu medrau - yn ogystal â datblygu'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol - i ysbrydoli a hyrwyddo addysgu sy'n darparu profiadau dysgu eithriadol o'r ansawdd a'r safonau uchaf ar draws yr ysgol
• annog a chefnogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol, gan greu amgylchedd sy'n ysbrydoli pob disgybl i gyflawni eu potensial llawn ym mhob agwedd ar eu dysgu a'u datblygiad ledled yr ysgol
• meithrin a chynnal partneriaeth agos gan weithio gyda'r holl rhanddeiliaid a'r
gymuned - gan gynnwys disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr, ysgolion clwstwr, busnes a sefydliadau perthnasol eraill - er budd yr ysgol a'r disgyblion
• dangos ymrwymiad i gyflawni gweledigaeth Gymraeg Ysgol Bro Caereinion
Mae hwn yn hysbyseb ar gyfer swydd Dirprwy Bennaeth ble mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.