MANYLION
  • Lleoliad: Leatherhead, Surrey, KT22 8JB
  • Testun: Ymgynghorydd Hyfforddi Cwmni
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: gweithio hyblyg
  • Math o gyflog: Dyddiol
  • Salary Range: £300.00 - £300.00
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Ymgynghorydd Jig-so i Gymru

Ymgynghorydd Jig-so i Gymru

Jig-so
Disgrifiad Swydd

Teitl y swydd
Ymgynghorydd Cyswllt Jig-so: Cymru

Ymunwch â’n tîm o ymgynghorwyr a gweithiwch gyda nhw a phencadlys Jig-so i ddatblygu defnydd gwersi Jig-so ledled Cymru
Contract
Hunan-gyflogedig
Ffi ymgynghori: £300 y dydd
I ddechrau cyn gynted â phosibl

Prif ddibenion y swydd





Cynyddu nifer yr ysgolion (cynradd ac uwchradd) yng Nghymru sy'n defnyddio Rhaglenni Jig-so.
Arwain gwaith Jig-so yng Nghymru mewn cysylltiad â Phencadlys Jig-so
Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau ym maes addysg yng Nghymru a chynghori Pencadlys Jig-so
Meithrin partneriaethau a pherthnasoedd gyda rhanddeiliaid allweddol

Cyfrifoldebau allweddol







• Datblygu a chyflwyno cynllun gweithredu i:
- sicrhau bod ysgolion ledled Cymru yn ymwybodol o Raglenni Jig-so a sut y maent yn cefnogi cwrdd ag agweddau allweddol o Gwricwlwm i Gymru
- gweithio'n strategol ac yn systematig gyda phob sir, Timau Ysgolion Iach, Consortia a grwpiau ysgol i gyflwyno sefydliadau o'r fath i Gymuned Jig-so
(h.y. i brynu rhaglenni Jig-so)
- datblygu rhaglen o gymorth parhaus ar gyfer ysgolion Jig-so yng Nghymru, gan gynnwys ysgrifennu dogfennau mapio, taflenni i rieni a deunyddiau cymorth i ddiwallu anghenion ysgolion.
- cynllunio a chyflwyno hyfforddiant Jig-so penodol i Gymru yn ymwneud â Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles ac ACRh statudol
- cydlynu'r gwaith o gyfieithu Rhaglenni Jig-so/deunyddiau cymorth i'r Gymraeg
- mynychu cynadleddau Addysg perthnasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am addysg a datblygiadau cwricwlaidd
- cyfrannu at ddatblygiad rhaglenni a mentrau Jig-so
- cynghori Pencadlys Jig-so ar ddatblygiadau a fyddai'n gwella'r rhaglenni
- meithrin partneriaethau a pherthnasoedd gyda rhanddeiliaid allweddol


Canlyniadau/amcanion allweddol








- Targedau uchelgeisiol a realistig ar gyfer nifer yr ysgolion Jig-so yng Nghymru a fydd yn defnyddio'r rhaglenni blwyddyn ar ôl blwyddyn
- Ysgolion yng Nghymru sy’n defnyddio Jig-so i adrodd canlyniadau cadarnhaol ynglyn ag effaith y Rhaglenni ar lesiant a dysgu plant a phobl ifanc, yn ogystal â mynegi boddhad â’r cymorth sydd ar gael
- Helpu sicrhau taw Jig-so yw’r darparwr addysg Iechyd a Lles/ACRh mwyaf yng Nghymru o fewn 3 blynedd
Profiad allweddol
Hanfodol:
- Athro cymwysedig gyda phrofiad addysgu mewn ysgol(ion) Cymraeg
- Cynllunio a rheoli prosiectau
- Creu deunyddiau addysgu
- Arweinydd a chwaraewr tîm

Dymunol:
- Eisoes wedi gweithio yn y sector addysg ehangach e.e. i awdurdod lleol, rhaglen leol neu genedlaethol yn ymwneud ag addysg ee Cynllun Ysgolion Iach
- Arweinyddiaeth pwnc ABCh/ACRh/HWB yn yr ysgol
- Gweithio mewn ystod o ysgolion a chyda rhanddeiliaid allanol
- Wedi hyfforddi athrawon
Cymwyseddau allweddol
Hanfodol:
- Angerddol am Iechyd a Lles, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb a sut mae hyn yn effeithio ar ddysgu a chyfleoedd bywyd
- Athroniaeth bersonol ar addysg sy'n cyd-fynd â'r Dull Jig-so
- Awyddus i barhau i ddysgu
- Addysgu a hyfforddi athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill
- Sgiliau cynllunio prosiectau
- Dealltwriaeth o gyfundrefn a datblygiadau o fewn y sector addysg yng Nghymru
- Empathi ag athrawon a staff ysgolion
(gweithio i a chydag ysgolion)
- Sgiliau rheoli amser effeithiol, hunan-gymhelliant ac agwedd rhagweithiol
- Sgiliau trefniadol
- Sgiliau ysgrifennu a chyflwyno (ee PowerPoint).
- Gyrrwr gyda thrwydded yrru lân a chludiant ei hun

Dymunol:
- Siaradwr Cymraeg
Lleoliad Gweithio o gartref gydag ymweliadau â Phencadlys Jig-so a pheth teithio ledled Cymru