MANYLION
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Telerau Athrawon.
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Ebrill, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Telerau Athrawon.
Lleoliad gwaith: Coed Pella a lleoliadau addysgol ar draws Sir ConwyRydym yn gyffrous i wahodd ceisiadau am rôl athro dyslecsia/cymorth dysgu arbenigol i'n tîm cyfeillgar, deinamig a chefnogol. Mae gan ein gwasanaeth uchel ei barch hanes o gefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd dysgwyr yn llwyddiannus. Rydym bob amser yn edrych i adeiladu ar ein llwyddiant a meddwl yn greadigol am sut i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau mewn ymateb i angen a datblygiadau ymchwil.
Rydym yn chwilio am berson cymwys, ymroddedig a brwdfrydig i weithio iddo un a hanner dau, ddyddiau'r wythnos, gan ddarparu asesiadau ac ymyriadau llythrennedd o ansawdd a chyfrannu at ddatblygu'r gwasanaeth.
Bydd y swydd yn barhaol.
Croesewir ceisiadau yn seiliedig ar drefniadau secondiad.
Bydd gofyn i bob ymgeisydd gael gwiriad DBS.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Dr Kate Swindon, Uwch Seicolegydd Addysgol ( Kate.swindon@conwy.gov.uk / 01492 575173)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.