MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthenshire,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Ebrill, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirpwry Bennaeth - Ysgol Tycroes

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 1520

Sefydliad: Ysgolion

Adran: Ysgol Gynradd Tycroes

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Parhaol Amser Llawn

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Gradd: Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyflog o: L5 - £55,900

Cyflog i: L9 - £61,705

Oriau Contract: Yn unol â dogfen Tâl a Chyflwr Athrawon Ysgol (Cymru)

Dewch i ymuno â'n tîm
Lleolir Ysgol Tycroes ym mhentref Tycroes, ger Rhydaman, ac mae'n croesawu disgyblion o ddalgylch eang yn ardal Dyffryn Aman. Ar hyn o bryd mae 201 o ddisgyblion ar y gofrestr. Rydym yn ysgol cyfrwng Saesneg, ond gydag ymrwymiad cryf i ddatblygiad y Gymraeg ymhlith ein disgyblion a chymuned yr ysgol.

Oherwydd ymddeoliad deiliad presennol y swydd, mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n tîm cyfeillgar, ymroddedig a chreadigol fel Dirprwy Bennaeth. Mae'r Corff Llywodraethol yn ceisio penodi person angerddol, empathetig, brwdfrydig a chymhelliant eithriadol. Byddwch yn ymuno â thîm arwain cefnogol ac ymroddedig.

Bydd y person a benodir yn:
  • Ymarferydd ystafell ddosbarth ardderchog gyda lefel uchel o gymhwysedd digidol
  • Yyn llysgennad i'r ysgol gyda rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach
  • Hyrwyddo rhagoriaeth, cydraddoldeb a disgwyliadau uchel i bob disgybl
  • Chwarae rôl allweddol wrth ddyfeisio, cyflwyno a sicrhau bod gweledigaeth, arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol yr ysgol yn cael eu gweithredu
  • Gwerthuso perfformiad yr ysgol, nodi a monitor blaenoriaethau ar gyfer gwella
  • Rheoli, hyrwyddo a sicrhau addysgu a dysgu rhagorol ar draws yr ysgol gyfan
  • Cymryd cyfrifoldeb a rennir am ddatblygu'r Cwricwlwm newydd I Gymru ochr yn ochr â'r Pennaeth a'r staff
  • Darparu a chefnogi datblygiad proffesiynol i'r holl staff
  • Gweithio'n agos gyda staff i sicrhau arfer gorau a dealltwriaeth o atebolrwydd
  • Ymgymryd â thasgau rheoli, trefnu a gweinyddu o ddydd i ddydd
  • Gweithio'n effeithiol gyda Chorff Llywodraethu'r ysgol
  • Cymryd rhan weithredol ym mywyd ehangach yr ysgol
  • Dirprwyo yn absenoldeb y Pennaeth
  • Bod â dyheadau i symud ymlaen i Brifathrawiaeth yn y dyfodol

Mae Ysgol Tycroes wedi ymrwymo I ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc a disgwylir i'w holl staff gefnogi'r ymrwymiad craidd hwn. Mae'r swydd hyn yn destun gwiriad DBS manylach. Os hoffech ymweld â'r ysgol, neu drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â'r Pennaeth, Mrs Sally Anne Watts.

Bydd angen cynnal pob ymweliad y tu allan i'r diwrnod ysgol.

Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am Ddatgelu'r Gwasanaeth Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn aelod o Gyngor y Gweithlu Addysg.


Ymweliadau â'r ysgol: 1af Ebrill am 1:30yp neu 2il Ebrill am 4:00yp

Dyddiad cau: 7fed Ebrill 2025



Rhestr fer: 30fed Ebrill 2025 (i'w gadarnhau)

Dyddiad y cyfweliad: Wythnos yn dechrau 12fed Mai 2025

Mae'r Corff Llywodraethol yn edrych ymlaen at dderbyn eich cais ac yn dymuno pob llwyddiant i chi.

Cyswllt


Teitl Swydd: Pennaeth - Mrs Sally-Anne Watts
Wefan: www.tycroesprimaryschool.co.uk
Ebost: sally-anne.watts@tycroes.ysgolccc.cymru
Rhif ffôn: (01269) 593253

Disgrifiad Swydd: Job Profile DH 2025.pdf - 316KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 12 Mai 2025

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 07/04/2025, 16:00

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.