MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Telerau Athrawon.
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro Cerdd Peripatetig (Gitar)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Telerau Athrawon.

Lleoliad gwaith: Ysgolion Cyngor Sir Conwy

Yn eisiau dechrau mor fuan â phosib.

Athro Cerdd Peripatetig (Gitar) i cyflwyno'r Gwersi Gitâr sydd wedi'u hamserlennu i'r ysgolion, hyd at diwedd tymor yr haf 2025.

Costau teithio rhwng ysgolion.

Mae gennym swydd ar gyfer tiwtor gitâr brwdfrydig am gyfnod dros dro, all roi gwersi wythnosol i ddisgyblion cynradd ac uwchradd. Gwahoddir ceisiadau gan diwtoriaid cerdd gyda chymwysterau a/neu brofiad priodol. Cyflogir yr ymgeisydd llwyddiannus yn unol â thelerau athrawon llanw. Buasai yn fanteisiol petai yr ymgeisydd llwyddiannus yn brofiadol cynnal a gweithredu grwpiau/ensemblau/cerddorfoaedd ac sydd gyda phrofiad o gynnal gwersi cwricwlwidd mewn dosbarth a/neu sydd a phofiad o ddefnyddio offer digidol cerddorol.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Cysylltwch â Mr John Paul Jones, Rheolwr Dros Dro Gwasanaeth Cerdd ar 01492 574604 os am drafodaeth anffurfiol.

Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen.Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: John Paul Jones, Swyddog Gwella Addysg Conwy ( John.paul.jones@conwy.gov.uk / 01492 574604)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.