MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,584 - £26,835 Pro Rata | Grade 4 | Hourly Rate: £13.26 - £13.91
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Gweithiwr Cymorth Ieuenctid dan Hyfforddiant - Gwasanaeth Ieuenctid
Torfaen Local Authority
Cyflog: £25,584 - £26,835 Pro Rata | Grade 4 | Hourly Rate: £13.26 - £13.91
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol TorfaenGwasanaeth Ieuenctid Torfaen mewn Partneriaeth â Chyngor Cymuned Pont-y-pŵl
Rhan amser, 8 awr yr wythnos dros ddwy noson yn ystod y tymor, gan newid yn ystod cyfnodau gwyliau mewn ymateb i weithgareddau'r bobl ifanc.
Cyfnod penodol am flwyddyn o'r dyddiad cychwyn gyda'r bwriad o ymestyn os gellir cael cyllid ychwanegol.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen Mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Pont-y-pŵl, yn chwilio am Weithiwr Cymorth Ieuenctid dan Hyfforddiant i gefnogi'r gwaith o ddarparu amrywiaeth o weithgareddau i bobl ifanc mewn clybiau ieuenctid yn ardal Pont-y-pŵl i ddechrau a hefyd ledled Torfaen. Mae angen i'r ymgeisydd ddangos y gallu i feithrin perthnasoedd â phobl ifanc a darparu ystod o gyfleoedd ochr yn ochr â phobl ifanc. Nid oes angen cymwysterau ffurfiol gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau hyfforddiant gwaith ieuenctid.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Helen Cooling ar helen.cooling@torfaen.gov.uk / 07852 210228 neu david.williams@torfaen.gov.uk / 07980 682276
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.