MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Ebrill, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Pennaeth Y Gyfadran Technoleg A TGCH - Ysgol Dyffryn Nantlle
Cyngor Gwynedd
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADRAN ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN NANTLLE, PENYGROES
(Cyfun 11 - 18; 390 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1 Medi, 2025
Pennaeth Y Gyfadran Technoleg A TGCH.
Mae'r ysgol yn awyddus i benodi person brwdfrydig i fod yn gyfrifol am yr adran Technoleg a TGCH.
Oriau gwaith: Llawn Amser
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) yn ôl profiad a chymhwyster. Bydd CAD 2B (£5,747) yn ychwanegol.
Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mrs Rhian Parry Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Elen Williams, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6AA, (Rhif ffôn 01286 880345)
e-bost: sg@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 11 EBRILL, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Swydd Ddisgrifiad Pennaeth Cyfadran Technoleg a TGCh.pdf
Manylion Person
Meini prawf
Hanfodol
Dymunol
Dull Asesu
Cymwysterau
- Bod yn raddedig sydd â chymwysterau da gyda gradd anrhydedd dda mewn pwnc Dylunio / Technoleg neu cymhwyster gradd tebyg a TAR neu gymhwyster addysgu cydnabyddedig arall mewn Dylunio a Thechnoleg.
- Cymwysterau proffesiynol pellach
Ffurflen Gais
Canolwr
Profiad
- Meddu ar brofiad o addysgu ac ysbrydoli disgyblion ar draws ystod oedran a gallu Cyfnodau Allweddol 3 a 4 i ddysgu'n effeithiol a chynhyrchu gwaith o safon uchel, gan ddefnyddio asesu i lywio'r gwaith o gynllunio gwaith disgyblion yn y dyfodol.
- Profiad o arwain adran neu faes Dysgu a Phrofiad.
- Profiad o addysgu pwnc yn y maes Dylunio a Thechnoleg hyd at TGAU.
Ffurflen gais
Canolwr
Cyfweliad
Gwybodaeth, Sgiliau a
Galluoedd
- Bod yn athro egnïol, arloesol a brwdfrydig gyda gwybodaeth drylwyr am y Cwricwlwm, gyda'r gallu i ysgogi diddordeb disgyblion o bob gallu.
- Bod â dealltwriaeth glir iawn o'r fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a'i gymhwysiad ar draws y cwricwlwm a modelu defnydd da o lythrennedd a rhifedd gyda disgyblion yn ogystal â chael ymwybyddiaeth o fframwaith cymhwysedd digidol.
- Dangos tystiolaeth o addysgu neu ymarfer addysgu am y gallu i gael gwaith o safon uchel gan ddisgyblion o wahanol oedrannau a galluoedd.
- Bod yn rheolwr dosbarth cadarn gyda'r sgiliau sydd eu hangen i greu hinsawdd lle gellir dysgu'n effeithiol
- Gallu cyfrannu at gyflawni strategaethau trawsgwricwlaidd yn effeithiol fel y rhai mewn rhifedd, llythrennedd a TGCh.
- Ymwybyddiaeth dda o'r newidiadau o fewn addysg a'r Cwricwlwm i Gymru.
- Bod yn weinyddwr da a all sicrhau bod tasgau'n cael eu cwblhau'n effeithiol ac yn amserol, ysgrifennu adroddiadau, cynnal cofnodion ac ati.
- Gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm, gan geisio cyngor pan fo angen.
- Dangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Deall rôl a chyfrifoldeb yr athro mewn perthynas â rhedeg yr adran a'r ysgol yn gyffredinol
- Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau yn lleol ac yn genedlaethol ym maes addysg ac addysgeg
- Y gallu i ymgymryd â dyletswyddau'n effeithiol mewn ysgol ddwyieithog ac ALl
Ffurflen Gais
Canolwr
Cyfweliad
Ymddygiad proffesiynol ac addasrwydd i weithio gyda Phobl Ifanc
- Presenoldeb rhagorol, prydlondeb a chofnod disgyblu
Canolwr
Gwiriad DBS
Swydd Ddisgrifiad
-
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi