MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro Mathemateg

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

YSGOL Y GRANGO

Allt TÅ• Gwyn

Rhos

Wrecsam

LL14 1EL

Rhif ffôn: 01978 833010

E-bost: info@grango.co.uk

Pennaeth: Ms V Brown, BA Anrh, CPCP

Athro Mathemateg

Prif Raddfa Gyflog/Uwch Raddfa Gyflog

Ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11-16 oed

Nifer ar y gofrestr: 580

Rydym yn chwilio am athro/athrawes dosbarth rhagorol sy'n awyddus i ddatblygu addysgu a dysgu rhagorol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dangos y sgiliau, y weledigaeth a'r brwdfrydedd i ysbrydoli disgyblion i wneud eu gorau glas. Byddant hefyd yn adeiladu ar yr arfer da a sefydlwyd ac yn helpu i fynd â'r adran i gam nesaf datblygiadau cyffrous yr ysgol. Croesawir ceisiadau gan athrawon sy'n ymgeisio am eu swydd gyntaf, yn ogystal ag athrawon profiadol.

Mae Ysgol y Grango yn ysgol boblogaidd sy'n ffynnu, gan wasanaethu pentrefi Rhosllannerchrugog, Ponciau, Johnstown a Phenycae. Mae safonau ymddygiad yn uchel, mae'r staff yn wych ac mae'r rhieni'n cymryd rhan ymarferol ac yn gefnogol iawn.

Ymgeisiwch drwy anfon llythyr a ffurflen gais. Dylai'ch llythyr nodi sut mae'ch sgiliau a'ch profiad yn eich gwneud yn gymwys ar gyfer y swydd.

I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth.

Mae pecyn cais ar gyfer y swydd ar gael o: info@grango.co.uk, trwy lawrlwytho o'r dolenni isod neu o wefan yr ysgol: www.grango.co.uk

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol. Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 12pm, 28/03/2025