MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Eifionydd, Porthmadog,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Ebrill, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL EIFIONYDD, PORTHMADOG
(Ysgol Gyfun 11 - 16 oed, 373 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 01/09/2025
PENNATH ADRAN MATHEMATEG A CHYDLYNYDD RHIFEDD
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus addysgu yr holl ystod gallu ac oedran.
Oriau gwaith: 32.5 awr yr wythnos
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) y flwyddyn ynghyd a lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu CAD2a o £8,426 y flwyddyn i'r ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr. Dewi Bowen B.Sc.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Marian Crowe, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Eifionydd, Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9HS (Rhif ffôn: 01766 512114, Ffacs 01766 514785); e-bost: sg@eifionydd.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DDYDD MERCHER, 9 EBRILL, 2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Swydd Ddisgrifiad Pennaeth Adran.pdf
Manylion Person
-
Swydd Ddisgrifiad
Mae'r Pennaeth Adran yn atebol i'r Pennaeth am yr Adran yn ei holl agweddau.
Bydd y Pennaeth Adran yn gyfrifol yn y lle cyntaf i aelod cyswllt y Tîm Rheoli.
1. Y Pennaeth Adran s'yn gyfrifol am drefniadaeth a gweinyddiad cyffredinol yr adran ac am arwain
datblygiadau yn y maes yn unol â chynlluniau cwricwlaidd yr ysgol a gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.
2. Yn gyfrifol am fonitro ac arfarnu effeithiolrwydd y sefyllfaoedd dysgu yn eu holl agweddau ac am asesu
cynnydd y disgyblion. I wneud hyn yn effeithiol mae angen i'r Pennaeth Adran ymweld a chydweithio yn y
dosbarthiadau ac edrych ar waith y plant a llunio adroddiad craffu. Golyga hyn fod yna ddealltwriaeth dda
ac adeiladol a chyd-weithio proffesiynol rhwng y Pennaeth Adran / Cyd-gysylltydd a'r athrawon eraill a'r
staff ategol.
3. Yn gyfrifol am hyrwyddo gweledigaeth yr ysgol gan sicrhau eu bod yn cael eu hadlewyrchu yn holl raglenni
dysgu'r adran.
4. Yn gyfrifol am gynllun gwella, adnabod anghenion a gosod blaenoriaeth ac am gynnal arfarniad blynyddol o
holl weithgareddau'r adran. Bydd yr adran yn dewis 3 blaenoriaeth bob blwyddyn i'w harfarnu yn unol a
threfniadau'r ysgol a blaenoriaethau'r cynllun gwella ysgol.
5. Yn gyfrifol am drefnu cyfarfodydd rheolaidd o holl athrawon yr adran i drafod polisïau a datblygiadau
cwricwlaidd. Dylid paratoi agenda i'r cyfarfodydd a chyflwyno cofnodion o'r cyfarfodydd i'r Pennaeth. Dylid
sicrhau fod y cyfarfodydd yn ffocysu ar gynnydd disgyblion.
6. Sicrhau bod cyfrifoldebau o fewn yr adran yn cael eu rhannu yn rhesymol - yn dilyn trafodaeth a bod
cyfrifoldebau pob aelod o'r adran yn cael eu nodi yn glir yn llawlyfr yr adran.
7. Yn gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol holl aelodau'r adran gan fod yn gefn iddynt os oes angen a rhoi
anogaeth a sicrhau cyfle iddynt fynychu cyrsiau hyfforddiant mewn swydd.
8. Paratoi cynllun gwaith fydd yn cael ei adolygu o bryd i'w gilydd yn ôl y gofyn. Dylai'r cynllun gwaith nodi
amcanion cyffredinol ac amcanion penodol clir ar gyfer yr Adran fydd yn cyd-fynd a gweledigaeth yr ysgol.
9. Sicrhau fod cynlluniau gwaith yn rhoi sylw digonol i'r Fframwaith Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd
Digidol yn ogystal a ADY a'r abl a thalentog. Datblygu a gweithredu cynllun asesu ar gyfer holl aelodau'r
adran. Sicrhau bod Portffolio cyfredol ac addas yn weithredol yn yr adran.
10. Sicrhau fod aelodau'r Adran yn cadw cofnodion manwl o'r gwaith a wneir yn y gwersi, o bresenoldeb
disgyblion a'u marciau mewn gwaith dosbarth a gwaith cartref.
11. Sicrhau fod yr adran yn tracio asesiadau gan ddefnyddio system ysgol gyfan CA3 a system adran benodol i
CA4.
12. Sicrhau fod polisi iaith yr ysgol yn cael ei weithredu gan athrawon yr adran.
13. Arolygu'r dulliau dysgu a ddefnyddir o fewn yr adran ac arolygu safonau marcio a gwaith cartref.
pa:\swyddi\pennaeth adran.doc
14. Rhoi hyfforddiant arbennig i aelodau iau yr adran yn ogystal â sicrhau fod staff mwy profiadol yn derbyn
hyfforddiant pellach trwy ddilyn cyrsiau hyfforddiant mewn swydd.
15. Bod yn effro i'r datblygiadau diweddaraf yn y maes a rhannu'r wybodaeth ag aelodau eraill yr adran.
16. Arfarnu gwaith y disgyblion yn rheolaidd a chymryd camau priodol petai gwaith cartref heb gael ei gwblhau
neu petai'r gwaith a gyflwynir yn anfoddhaol.
17. Sicrhau safon uchel o ddisgyblaeth ym mhob dosbarth o fewn yr adran.
18. Penderfynu pa arholiadau allanol y bydd disgyblion yn eu sefyll a'r lefel addas gan gadw cofnod manwl o
ganlyniadau'r arholiadau a'u dadansoddi, eu cloriannu a'u trafod.
19. Bod yn gyfrifol am archebu llyfrau, defnyddiau ac offer ar gyfer yr adran o fewn y cyfyngiadau ariannol a
chadw cofnod manwl o'r adnoddau hynny.
20. Cynghori yngly ^n â thynnu rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer swydd yn yr adran.
21. Cadw cysylltiad clos ag ysgolion cynradd y dalgylch i sicrhau parhad y dysgu.
22. Sicrhau fod pob aelod o'r adran yn cwblhau adroddiadau ar y disgyblion erbyn y dyddiadau penodedig.
23. Hyrwyddo'r pwnc drwy'r ysgol trwy arddangos gwaith mewn ystafelloedd, yn y llyfrgell ac ar hysbysfyrddau
ac annog gweithgareddau allgyrsiol o fewn yr Adran.
24. Cyfrifol am greu diddordeb ymhlith athrawon y pwnc mewn gweithgareddau allgyrsiol.
25. Sicrhau gwybodaeth i ymholiadau rhieni am gynnydd disgyblion.
26. Trefnu gwaith yr adran fel bod aelodau yn cael amrywiaeth profiadau dysgu.
27. Trefnu rhaglen ddysgu ac amodau priodol i athrawon ar brawf gan roi arweiniad a chyfarwyddyd iddynt.
28. Arwain a goruchwylio darpar athrawon ar ymarfer dysgu gan sicrhau eu bod yn cael rhaglen ddysgu
gymwys a'u bod yn deall polisïau a threfniadaeth yr adran.
29. Hybu cysylltiadau rhwng yr adran a'r gymuned drwy ddefnyddio'r adnoddau dynol ac amgylcheddol.
30. Cyd-weithio â staff gwasanaeth ymgynghorol GwE.
31. Paratoi Llawlyfr Adran fydd yn arweiniad clir i'r holl athrawon a'r myfyrwyr sy'n gweithio o fewn yr adran.
32. Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fydd yn sicrhau gweinyddiad effeithiol yr adran.
33. Gweithredu fel Arweinydd tîm (ble mae'n briodol) o fewn trefn Rheoli Perfformiad yr ysgol.
Ni ddylid dehongli'r swydd ddisgrifiad yma fel disgrifiad cyflawn o'r swydd. Adolygir a diwygir y swydd yn
flynyddol ac fe ellir ei haddasu neu ei diwygio ar unrhyw adeg yng ngoleuni unrhyw ddeddfau cyflogaeth neu
anghenion cwricwlaidd ac ar ôl ymgynghori gyda'r sawl sydd yn llenwi'r swydd.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi