MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Blank
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Athro Dosbarth Cyfnod Sylfaen (Ysgol Gynradd Newbridge-on-Wye)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Blank
Athro Dosbarth Cyfnod Sylfaen (Ysgol Gynradd Newbridge-on-Wye)Swydd-ddisgrifiad
. Ethos yr Ysgol
• Cynnal, a rhoi ar waith gweledigaeth a nodau cytunedig yr ysgol;
• Hyrwyddo llesiant disgyblion bob amser; Hyrwyddo cyfle cyfartal mewn amgylchedd dysgu sy'n gynhwysol; Sicrhau safon uchel o ofal corfforol ac emosiynol am yr holl ddisgyblion; Cyfoethogi datblygiad moesol, ysbrydol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn y dosbarth a phan fydd yr ysgol yn ymgynnull;
• Hyrwyddo ymddygiad da, parch y naill am y llall a rheolau'r ysgol; Ceisio rhoi'r hunan-ddisgyblaeth i'r disgyblion; disgwyl ymddygiad da a chwrteisi gan bob disgybl; Rhoi'r holl bolisïau a gweithdrefnau ysgol-gyfan ar waith; Hyrwyddo datblygiad y Gymraeg a dealltwriaeth disgyblion y Gymru, ei threftadaeth a'i diwylliant; Hysbysu'r Pennaeth o les ac anghenion cymdeithasol a phersonol disgyblion unigol.