MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Teachers Pay Scale
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Athro/awes Addysg Gorfforol - Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Torfaen Local Authority
Cyflog: Teachers Pay Scale
Contract BlwyddynAr gyfer Medi 2025
Cyflog: Graddfa gyflog athrawon
A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy'n hyrwyddo arloesedd i'r dyfodol?
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro/athrawes ymroddgar ac egnïol er mwyn addysgu Addysg Gorfforol i grwpiau o ferched yn bennaf ar draws CC4 a CC5, ac o bosib CA5 yn seiliedig ar brofiad ac arbenigedd. Mae'r adran yn rhan o'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles CC4 a phwnc ar wahân yn TGAU hyd at Safon Uwch. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu ail bwnc fel sy'n addas.
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.
Ni yw'r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a'r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.
Agorodd Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i'r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a'r M5 a phriffordd Pennau'r Cymoedd sy'n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu'r gweithlu ac arloesi.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn parhau gyda'n datblygiadau o fewn y maes dysgu a phrofiad drwy addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd.
Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i'n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua'r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.
Prif gyfrifoldebau
- Ymgymryd â dyletswyddau Athro/Athrawes yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, a deddfwriaeth bresennol arall ym maes addysg.
- Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr ar draws y cyfnodau allweddol gwahanol a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon
- Cyfrannu at waith datblygu sgiliau ar draws yr adran, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd
- Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i'n dysgwyr
*Gall dyletswyddau amrywio yn ôl penderfyniad yr UDA neu newidiadau cwricwlaidd
Disgwylir i berson sy'n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni'r gofynion isod:
- Meddu ar ddealltwriaeth o dracio cynnydd dysgwyr;
- Dealltwriaeth o safonau rhagorol o fewn y pwnc a thu hwnt;
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a'r Saesneg;
- Gallu gweithio fel rhan o dîm;
- Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;
Ystyrir ceisiadau oddi wrth athrawon profiadol neu athrawon sydd newydd gymhwyso am y swydd hon.
Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, llenwch ffurflen gais. Os ydych am sgwrs anffurfiol i drafod y weledigaeth a syniadau ar gyfer datblygu'r maes, cysylltwch â'r ysgol i siarad â'r Pennaeth.