MANYLION
  • Lleoliad: Abergavenny, Monmouthshire, NP7 8PL
  • Testun: Dirprwy Bennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Cross Ash

Cyngor Sir Fynwy
Mae Llywodraethwyr, Staff a Phlant Ysgol Gynradd Cross Ash yn dymuno penodi athro/athrawes sy’n ysbrydoli ac sydd â sgiliau arweinyddiaeth amlwg ar gyfer swydd Dirprwy Bennaeth. Bydd y Dirprwy Bennaeth yn ysbrydoli, cefnogi ac arwain tîm brwdfrydig ac ymroddedig, gan adeiladu ar Adroddiad Arolwg rhagorol Estyn ym mis Mai 2024. Rydym angen gweithiwr proffesiynol arweiniol sy’n ymroddedig i ddatblygu dyfodol hirdymor ein hysgol, gan anelu am ragoriaeth bob amser.

Mae Cross Ash yn ysgol wledig, gan ei gwneud yn eithaf unigryw. Bydd angen i chi fod yn rhan gyfannol o gymuned yr ysgol, gan sicrhau fod cysylltiadau gyda’r rhieni a’r gymuned ehangach yn parhau yn flaenoriaeth. Byddwch angen profiad diweddar o arwain a gwybodaeth o’r Cwricwlwm i Gymru. Disgwylir i chi arwain ar brosesau asesu, gan sicrhau cynnydd a deilliannau rhagorol i’r holl blant.

JOB REQUIREMENTS
Gweler atodiad