MANYLION
Mewngofnodwch i ymgeisio
- Lleoliad: Conwy, Conwy, LL32 8ED
- Testun: Mentor
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Iaith: Saesneg
Mentor Arweiniol Chweched Dosbarth
Ystod Cyflog G05
Mae hon yn swydd barhaol o 37 awr yr wythnos, tymor ysgol a 7 niwrnod.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau : Dydd Gwener Mawrth 21ain 2025.
Dyddiad Cychwyn : Ebrill 2025
Rydym yn ceisio penodi Mentor Arweiniol brwdfrydig a llawn cymhelliant i gefnogi myfyrwyr yn y chweched dosbarth yn unig. Byddant yn gweithio dan arweiniad ein Pennaeth Chweched Dosbarth i ddarparu cefnogaeth fugeiliol I fyfyrwyr yn y chweched dosbarth, gan gefnogi myfyrwyr sydd angen cymorth i oresgyn rhwystrau i ddysgu yn benodol. Byddant wedi ymrwymo i wneud y gorau o allu myfyrwyr i ddysgu, gan gynyddu eu cymhelliant i barhau i ddysgu, a’u cefnogi i ennill cymwysterau ôl-16. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adeiladu ac yn cynnal perthnasoedd cadarnhaol a chefnogol gyda rhieni a gofalwyr yn ogystal ag asiantaethau allanol, yn rheoli ac yn rhedeg ein canolfan chweched dosbarth ac yn sicrhau nad yw myfyrwyr sy’n gadael yr ysgol yn bobl ifanc heb fod mewn addysg neu hyfforddiant.
Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
• Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol;
• Ysgol â dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth;
• Cyfle i helpu i lywio addysgu a dysgu a'n cwricwlwm amgen;
• Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a llywodraethwyr ;
• Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol eraill ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chefnogaeth;
• Ysbryd cymunedol cryf;
• Lle bywiog a diddorol i weithio ynddo.
Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno ag Ysgol Aberconwy, ysgol gyfun gymysg sy’n cynnwys mwy na 1100 o ddisgyblion 11 i 18 oed. Mae campws newydd, eang yr ysgol wedi’i leoli ar lannau prydferth Afon Conwy, yn nhref ganoloesol Conwy, sydd ar arfordir Gogledd Cymru ac yn agos iawn i Barc Cenedlaethol Eryri. Fel ysgol MCP mae safon ein hadnoddau a’n gwaith cynnal a chadw yn eithriadol o dda ac rydym wedi datblygu enw da iawn yn lleol am ansawdd ein gofal bugeiliol yn ogystal â'n llwyddiant academaidd. Bydd niferoedd yr ysgol wedi codi 40% dros y pum mlynedd diwethaf ym mis Medi, ac rydym wedi datblygu canolfannau adnoddau arbenigol i gefnogi plant â dyslecsia, awtistiaeth ac anghenion dysgu eraill.
JOB REQUIREMENTS
Lawrlwythwch y Pecyn Gwybodaeth i Ymgeisydd i gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon.
https://www.aberconwy.conwy.sch.uk/cy/job-opportunities/